Neidio i'r prif gynnwys

Teithiau arbennig Pobol y Cwm i ddathlu 50 mlynedd

Mae BBC Cymru wedi cyhoeddi y bydd set Pobol y Cwm ar agor i’r cyhoedd, fis Hydref, fel rhan o ddathliadau pen-blwydd y gyfres yn 50.

Mae’r tocynnau, sydd wedi eu rhyddhau ar wefan bbc.co.uk/pobolycwm, yn rhoi cyfle unigryw i bobl ddathlu’r pen-blwydd mawr gyda’i gilydd, y tu ôl i’r llen yng Nghwmderi, y pentref dychmygol sy’n cael ei ffilmio yng nghanolfan BBC Studios Cymru ym Mae Caerdydd.

Yn ogystal ag agor y drysau i’r setiau eiconig y tu mewn i’r stiwdios drama, bydd y teithiau yn ymweld â’r brif stryd adnabyddus yng Nghwmderi. Pobol y Cwm yw opera sebon deledu hynaf y BBC sydd wedi cael ei ddarlledu ar S4C ers 1982.  Darlledwyd y gyfres am y tro cyntaf ar 16 Hydref 1974 ac nid yw’r stiwdios ar agor i’r cyhoedd fel arfer.

Dywedodd Cynhyrchydd y Gyfres, Dafydd Llewelyn, “Mae cymaint o bobl wedi bod yn holi am y teithiau hyn, ac rydym yn falch iawn o allu ail-agor ein drysau ar achlysur mor bwysig yn hanes y gyfres. Edrychwn ymlaen at groesawu pawb yma.”

Mae’r teithiau dwyieithog yn rhoi cyfle i bobl weld yr union fannau lle mae’r caru a’r cecru, a’r chwerthin a’r dagrau yn digwydd.

Bydd rhai o actorion y gyfres gan gynnwys Jonathan Nefydd (Colin), Sera Cracroft (Eileen) a Dyfan Rees (Iolo) yn arwain y teithiau a bydd cyfle i’r cyhoedd holi cwestiynau wrth grwydro o amgylch y setiau. Bydd actorion gwahanol yn tywys y teithiau bob dydd.

Mae Pobol y Cwm wedi bod yn gyfrifol am fagu talent rhai o sêr amlycaf Cymru – gan gynnwys yr actor Hollywood Ioan Gruffudd, seren y West End a’r sgrin fach, Iwan Rheon a’r seren ffilm a theledu, Alexandra Roach – gyda’r tri ohonynt yn hogi eu crefft ar Pobol y Cwm.

Fel rhan o ddathliadau pen-blwydd y gyfres, bydd S4C yn darlledu nifer o raglenni arbennig i nodi’r achlysur, gan gynnwys rhaglen ben-blwydd, nos Fercher Hydref 16 am 8pm ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.

Cynhelir y teithiau ddydd Sadwrn 12 Hydref, dydd Sul 13 Hydref, dydd Iau 17 Hydref, dydd Gwener 18 Hydref a dydd Sadwrn 19 Hydref. Mae’r tocynnau ar gael nawr ar wefan bbc.co.uk/pobolycwm. Bydd wyth taith ar gael bob dydd gyda dehongliad Iaith Arwyddion Prydain (BSL) fore Sul, 13 Hydref.

Dywedodd Gwenllian Gravelle, Pennaeth Ffilm a Drama S4C: “Dwi’n sicr fydd ein cynulleidfa yn bachu ar y cyfle unigryw i gamu ar Stryd Fawr fwyaf eiconig Cymru. Fydd hi’n brofiad bythgofiadwy ac yn ffordd wych o ddathlu pen-blwydd arbennig Pobol y Cwm yn 50.”

Dywedodd Sian Gwynedd, Pennaeth Diwylliant a Phartneriaethau, BBC Cymru, “Ar ben-blwydd mor arwyddocaol mae’n wych gallu croesawu rhai o’r gwylwyr i Gwmderi i gael cipolwg tu ôl i’r llenni ar un o strydoedd enwocaf Cymru! Mae gan y gyfres le pwysig iawn yng nghalonnau gwylwyr ar draws Cymru ac mae hyn yn gyfle unigryw iddyn nhw fod yn rhan o’r dathliadau ac i gwrdd a rhai o’r actorion. Dwi’n siŵr y byddan nhw yn cael diwrnod i’w gofio!”

Nodyn i Olygyddion

  • Darlledwyd y bennod gyntaf erioed nos Fercher 16 Hydref 1974 am 7.10pm ar BBC One Wales
  • Ffilmiwyd ar y stryd fawr am y tro cyntaf yn stiwdio y BBC yn Llandaf yn 1996
  • Mae’r set bresennol wedi bod ym Mae Caerdydd ers 2011
  • Trefelin oedd yr enw gwreiddiol a gafodd ei drafod ar gyfer y gyfres
  • Llinell agoriadol Pobol y Cwm oedd: “Bore da, Maggie Mathias” gan Harri Parri (Charles Williams)
  • Darlledir Pobol y Cwm ar S4C, Mawrth – Iau am 8pm, gyda rhifyn omnibws ddydd Sul am 6.10pm, gydag isdeitlau Saesneg ar y sgrin.

05.09.24

Cyhoeddwyd gan dîm Cyfathrebu BBC Cymru