Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r Maes Coffa yn agor ar Dir Castell Caerdydd

Dydd Gwener 25 Hydref 2024


 

Mae seremoni agoriadol Maes Coffa Cenedlaethol Cymru 2024 wedi cael ei chynnal yng Nghastell Caerdydd, wrth i’r genedl baratoi ar gyfer Sul y Cofio blynyddol.

Ymunodd y Cynghorydd Helen Lloyd Jones, y Dirprwy Arglwydd Faer, â nifer o bwysigion eraill, gan gynnwys y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a Jane Hutt AoS ar ran Llywodraeth Cymru, i dalu teyrnged mewn gwasanaeth Coffa arbennig gyda Dau Funud o Dawelwch.

Cyn y gwasanaeth cafodd yr holl bwysigion gyfle i ysgrifennu teyrngedau ac wedi hynny fe blannon nhw groesau ym Maes Coffa Cenedlaethol Cymru ar dir y castell.

Dywedodd y Cynghorydd Helen Lloyd Jones, y Dirprwy Arglwydd Faer, “Mae’n bwysig cofio’r rhai a gollodd eu bywydau tra’n gwasanaethu ym mhob rhyfel; o ddechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf hyd at y digwyddiadau presennol yn Wcráin ac yn y Dwyrain Canol.

“Mae’n amser i fyfyrio a thalu teyrnged i bawb sy’n gwasanaethu ac sydd wedi gwasanaethu, am beryglu eu bywydau i gadw eraill yn ddiogel, a chofio eu teuluoedd hefyd.

“Mae’r Maes Coffa yn deyrnged deimladwy i’r aelodau hyn o’r lluoedd arfog ac yn atgof cyhoeddus nad yw eu haberthau byth yn cael eu hanghofio.”

Mae’r rhesi o dros 3,000 o groesau a marcwyr coffa y tu mewn i’r castell, pob un yn cario neges bersonol i rywun a gollodd ei fywyd tra’n gwasanaethu. Mae’r Maes yn parhau â thraddodiad a ddechreuodd ym 1928 pan blannwyd pabïau o amgylch croes bren wreiddiol oedd wedi’i chymryd o fedd maes brwydr milwr Prydeinig anhysbys, wedi’i leoli ar dir Abaty Westminster.

Mae’r Maes Coffa yng Nghastell Caerdydd ar agor i’r cyhoedd ymweld ag e a thalu teyrnged bob dydd rhwng 10.30am a 5.30pm tan 12 Tachwedd 2024.