Beth wyt ti'n edrych am?
Gwasanaeth Parcio a Theithio’r Nadolig ym Mae Caerdydd yn cychwyn dydd Sadwrn yma
Dydd Gwener, 29 Tachwedd 2024
Mae gwasanaeth Parcio a Theithio ym maes parcio aml-lawr Stryd Pierhead yn agor i’r cyhoedd dydd Sadwrn (Tachwedd 30) i wneud siopa Nadolig yng Nghaerdydd yn haws ac yn brofiad mwy boddhaol i bawb.
Mae FOR Cardiff a Chyngor Caerdydd wedi gweithio gyda’i gilydd i roi’r cynlluniau yn eu lle, ac yn annog unrhyw un sy’n teithio gyda char i mewn i’r ddinas i siopa Nadolig i ddefnyddio’r cyfleuster hwn, fel opsiwn arall cyfleus yn hytrach na gyrru i mewn i ganol y ddinas.
Yn cychwyn dydd Sadwrn yma, bydd y gwasanaeth hwn yn rhedeg am bedair wythnos o 9:30am tan 5:30pm, bob dydd Sadwrn a dydd Sul.
Dywedodd Emily Cotterill, Cyfarwyddwr Cyswllt yn FOR Cardiff:
“Mae cychwyn cyfnod y Nadolig yn nodi amser prysur a chyffrous ar gyfer Caerdydd fel un o brif leoliadau siopa. Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosib ddefnyddio’r gwasanaeth parcio a theithio i wneud siopa Nadolig yn foddhaol i bawb, ac ar yr un pryd yn lleihau tagfeydd traffig a lleihau’r pwysau ar feysydd parcio gorlawn yng nghanol y ddinas.”
“Mae’r cyfan mor rhwydd, parciwch eich car ym maes parcio aml-lawr Pierhead, tu ôl i Ganolfan Mileniwm Cymru, a thalu am eich parcio yn ôl y prisiau arferol wedi i chi gyrraedd. Yna, byddwch yn derbyn tocyn i deithio ar y bws i ganol y ddinas ac yn ôl ac yn cael eich cyfeirio at y safle bws y tu allan i Ganolfan y Mileniwm. Bydd y gwasanaeth Parcio a Theithio yn eich gollwng yn Stryd y Gamlas, wrth John Lewis a gwesty’r Marriott.”