Beth wyt ti'n edrych am?
CANLLAW RHODDION CROESO CAERDYDD
Dydd Gwener, 22 Tachwedd 2024
Oes gennych ffrindiau neu berthnasau sy’n amhosibl prynu ar eu cyfer? Peidiwch â phoeni, mae Croeso Caerdydd wedi llunio canllaw i rai o’r anrhegion gorau sydd gan y Ddinas i’w cynnig. P’un a ydyn nhw’n ymddiddori mewn antur, ymlacio, chwaraeon, te prynhawn neu hanes neu’n ystyried eu hunain yn arbenigwyr ar jin – fe ddowch o hyd i rywbeth i bawb!
Dewch o hyd i syniadau amgen a gwych isod am anrhegion sy’n addas i bob rhestr ddymuniadau.

PROFIADAU A THOCYNNAU RHODD
Methu gweld eich anwyliaid y Nadolig hwn? Anfonwch docyn rhodd atynt yn ddigidol neu drwy’r post.
1. DISTYLLFA CASTELL HENSOL – PROFIADAU JIN

Tocyn rhodd gan Ddistyllfa Castell Hensol yw’r anrheg berffaith i anwylyd sy’n dwlu ar jin. Dewiswch rhwng taith jin, gyda chyfle i flasu gwahanol fathau o jin blasus dan arweiniad tiwtor, a phrofiad gwneud jin lle gallwch greu eich potel 70cl o jin eich hun wedi’i phersonoli i chi. Hefyd, gellir anfon eich tocyn rhodd yn syth i’ch mewnflwch.
Darllenwch ragor yma: Tocynnau Rhodd – Distyllfa Castell Hensol
2. RHODD GWEFR A GWLYCHU YN DGRhC

Os ydych chi’n chwilio am anrheg Nadolig ychydig yn wahanol, does dim angen i chi chwilio ymhellach na thocynnau rhodd ar gyfer Canolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd. Nid nepell o ganol y ddinas, mae’r cyfleuster chwaraeon dŵr gwyn poblogaidd hwn yn cynnig gweithgareddau gwefreiddiol gan gynnwys Rafftio Dŵr Gwyn a’r Antur Awyr.
Dyma’r anrheg ddelfrydol i aelodau’r teulu a ffrindiau fwynhau amser cofiadwy gyda’i gilydd. Mae’r tocynnau’n dechrau am £10 yn unig ac maen nhw’n ddilys am chwe mis (mae cyfyngiadau oedran ac amodau a thelerau yn berthnasol). Prynwch eich rhai chi nawr yma, wrth dderbynfa’r ganolfan neu drwy ffonio 029 2082 9970.
3. CERDYN RHODD CAERDYDD AM BYTH

Gellir gwario cerdyn rhodd Caerdydd AM BYTH mewn dros saith deg o fusnesau ar draws canol dinas Caerdydd, o enwau mawr fel John Lewis a Marks & Spencer i ffefrynnau annibynnol fel Bar 44, Wally’s Deli a Hobo’s Vintage.
Nid yw siopa’n lleol erioed wedi bod yn bwysicach ac mae ein cardiau rhodd yn ffordd wych o gefnogi busnesau Caerdydd. Mae’r cardiau’n ddilys am flwyddyn gyfan o’u prynu, felly gallwch eu prynu nawr a’u gwario’n ddiweddarach heb boeni am y cyfyngiadau. Gallwch brynu cerdyn o unrhyw werth rhwng £10 a £500 yma.
4. 4. RHODD YMLACIO YNG NGWESTY’R PARK PLAZA

P’un a yw’n achlysur arbennig neu’n syrpreis hyfryd, mae tocynnau rhodd Gwesty’r Park Plaza yn rhodd berffaith i’r person arbennig yn eich bywyd. Dewiswch o un o’n profiadau Te Prynhawn niferus neu dewiswch Brofiad Sba fel yr anrheg foethus ddelfrydol.
Os nad ydych chi’n siŵr, rydym hefyd yn cynnig talebau ariannol sy’n ddilys yng Ngwesty’r Park Plaza, Cegin a Bar Laguna, a Sba Iechyd Laguna. Siopwch am y talebau yma.
5. TAITH O AMGYLCH STADIWM PRINCIPALITY

Rhowch brofiad newydd ac unigryw i’ch anwylyd lle mae’n gallu dychmygu sut deimlad yw camu allan ar y cae chwedlonol fel chwaraewr i Gymru, gan fod y daith hon yn cynnwys y lap lawn gyntaf erioed o’r cae y tu mewn i fowlen y stadiwm, ac yn gweld drosto’i hun faint y stadiwm â’i 74,500 o seddi, yr olygfa o lefel y cae ac adeiledd cymhleth enfawr y to 800 tunnell.
E-docynnau rhodd Teithiau Stadiwm Principality yw’r anrheg berffaith i aelodau’r teulu neu ffrindiau a gellir eu defnyddio ar gyfer archebu Teithiau Stadiwm yn y dyfodol. Cadwch le yma. Teithiau Stadiwm Principality E-Booker.
6. TALEBAU RHODD FUTURE INN

Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi osgoi’r siopau prysur, rhoi’r gorau i sefyll mewn ciwiau a phrynu rhoddion Nadolig o gysur eich cartref eich hun? Gallwch hyd yn oed siopa yn eich pyjamas! Gellir prynu’r holl docynnau rhodd gan Future Inns ar-lein.
Gan gynnwys aros dros nos o £89 i ddau berson, cinio dydd Sul cartref neu de prynhawn o £16 y pen, cinio tri chwrs o £23 y pen a hyd yn oed profiad bwyta â choctels. Mae’n cynnwys tri chwrs a thri choctel o’ch dewis am £50 y pen. Prynwch yma.
7. TOCYNNAU I WELD GÊM CARDIFF DEVILS

Oes cefnogwr Hoci Iâ yn y teulu? Ydych chi’n straffaglu i gael syniadau am anrhegion neu’n ansicr pa faint i’w gael? Mae’r union beth gennym.
Mae Cardiff Devils yn cynnig e-docynnau rhodd y gellir eu gwario ar nwyddau swyddogol neu docynnau. Caiff y tocynnau rhodd eu hanfon atoch mewn e-bost atoch chi ac maent yn cynnwys cyfarwyddiadau am sut i’w cyfnewid wrth fynd ati i dalu. Archebwch ar-lein yma.
8. DARN ARIAN THE SNOWMAN AND THE SNOWDOG™ O’R BATHDY BRENHINOL

Rhowch wên ar wyneb rhywun y Nadolig hwn gyda darn arian arbennig i gasglwyr. Yn debyg iawn i’r hanes ei hun, sydd wedi dod yn rhan annatod o draddodiadau’r Nadolig ym Mhrydain, mae’r darn arian 50c hwn yn y DU yn ymgorfforiad o ysbryd yr ŵyl.
Gyda dyluniad gwreiddiol gan y darlunydd a’r animeiddiwr arobryn Robin Shaw, a fu hefyd yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol dilyniant yr addasiad ffilm, The Snowman and The Snowdog™, y darn arian hwn yw’r anrheg berffaith sy’n siŵr o wneud i ffrind arbennig neu rywun annwyl wenu. Prynwch ar-lein yma. Beth am fynd â’ch anwylyn i ymweld â Phrofiad y Bathdy Brenhinol hefyd? Manylion yma.
9. 9. TOCYNNAU I DDIGWYDDIAD YN 2025

Does dim gwell anrheg na threulio amser gwerthfawr gyda’n gilydd. Beth am brynu tocynnau digwyddiad i rywun arbennig yn 2025? Edrychwch ar ein Canllaw Be Sy’ Mlaen ar gyfer yr holl ddigwyddiadau sydd ar ddod yng Nghaerdydd a phethau i’w gwneud, gan gynnwys cerddoriaeth fyw, gigiau, chwaraeon, theatr, comedi, gwyliau, hwyl i’r teulu a mwy!
10. TOCYNNAU RHODD CASTELL CAERDYDD

Yr anrheg berffaith i’r rhai sy’n dwlu ar hanes. Galwch heibio’r swyddfa docynnau yng Nghastell Caerdydd i brynu tocyn rhodd, gan ddechrau o £5. Gellir cyfnewid y tocynnau rhodd am docynnau mynediad i’r Castell a thocynnau taith, a gellir eu defnyddio yn Siop Anrhegion y Castell sy’n gwerthu detholiad eclectig o anrhegion a chofroddion hardd, wedi’u hysbrydoli gan gasgliadau’r Castell. Mae gemwaith aur, a chrisial rhagorol Cymru ar werth, yn ogystal ag ystod gynhwysfawr o gardiau post, llyfrau a deunydd ysgrifennu. Mae crefftau traddodiadol Cymreig fel llwyau caru ar gael hefyd – gellir comisiynu dyluniadau unigol. Dysgwch fwy yma.
11. ANRHEG UNIGRYW O’R FARCHNAD NADOLIG

Yn wahanol i’r Marchnadoedd Nadolig a welwch mewn dinasoedd eraill, pan fyddwch yn ymweld â Chaerdydd, gallwch fod yn sicr y byddwch yn prynu gwaith gwreiddiol gan bob un o’r gwneuthurwyr talentog: gemwaith arian unigryw, anrhegion pren wedi’u turnio, gwaith celf gwreiddiol ar draws pob cyfrwng, gwaith gwydr tawdd hardd, cerameg a wnaed â llaw, cwiltiau a thecstilau wedi’u gwneud â llaw, anrhegion pewter traddodiadol, ac ati ynghyd ag amrywiaeth o fwyd a diod tymhorol i greu awyrgylch Nadolig bywiog.
Darllenwch ragor yma: Marchnad Nadolig Caerdydd 2024 • Digwyddiadau • Croeso Caerdydd