FEAST ON CAERDYDD YN CYHOEDDI'R GYFRES GYNTAF O FASNACHWYR

Dydd Llun, 20 Ebrill 2026


 

Mae Feast On Caerdydd heddiw wedi datgelu’r rhestr gyntaf o fasnachwyr sydd wedi’u cadarnhau ar gyfer yr ŵyl gyntaf ym Mharc Bute, a gynhelir rhwng dydd Gwener 29 a dydd Sul 31 Mai 2026, gyda’r gyfres gyntaf dan arweiniad rhai o enwau bwyd mwyaf poblogaidd Cymru.

Yn arwain yr arlwy mae Pasture, sy’n adnabyddus am ei goginio ar dân a’i gig eidion adfywiol, y mae’r gwartheg wedi’u magu ar borfa; Bodega, y bwyty Mediteranaidd a bar gwin poblogaidd, a chwaer leoliad i Westy a Bwyty’r Priory yng Nghaerllion; Pasta a Mano, y cysyniad pasta cwlt a grëwyd yn Sir Benfro sydd â dilyniant ffyddlon ledled Cymru a thu hwnt; HILLS Brecon, gan ddod â’i fyrgyrs arobryn o Fannau Brycheiniog trwy ei HILLS Airstream; Bao Selecta, sy’n adnabyddus am ei fyns bao wedi’u stemio a’i lenwadau beiddgar; a ffefryn bwyd stryd Caerdydd Mr Croquewich, sy’n enwog am frechdanau caws wedi’i grilio wedi’u pentyrru, a chyw iâr wedi’i ffrio mewn parmesan.

Sefydlwyd Feast On, gŵyl fwyd annibynnol sy’n dathlu’r gorau o fwyd, diod a diwylliant lleol ledled y de-orllewin, ym Mryste yn 2024. A hithau bellach yn cychwyn ar ei thrydedd flwyddyn, mae’r ŵyl yn parhau i dyfu trwy ddod â masnachwyr annibynnol amlwg, y dalent leol orau ac ymdeimlad cryf o le ynghyd.

Mae lansiad Feast On Caerdydd yn nodi pennod newydd gyffrous wrth i’r ŵyl ehangu i Gymru am y tro cyntaf.

Wedi’i gosod yn erbyn cefnlen Parc Bute, un o fannau digwyddiadau awyr agored mwyaf adnabyddus y ddinas, bydd rhifyn Caerdydd yn cyfuno bwyta cyrchfan, bwyd stryd cwlt, gwneuthurwyr lleol ac eiliadau coginio byw mewn penwythnos sydd wedi’i gynllunio i ddathlu diwylliant bwyd annibynnol ym mhrifddinas Cymru a thu hwnt.

Hefyd wedi’i gadarnhau ar gyfer y gyfres gyntaf mae Chantico, taqueria cyfoes de Cymru a’r unig dortilleria yng Nghymru, sy’n gweini tacos wedi’u gwneud gyda tortillas corn ffres a chynhwysion lleol.

Mae The Dough Thrower, y brand bwyd stryd arobryn a sefydlwyd yng Nghaerdydd, yn dod â’i pizzettas tân pren beiddgar, sydd wedi’u gwneud â thoes wedi’i eplesu’n araf a chynnyrch Cymreig.

Gan Tudor Barber a thîm Neighbourhood Kitchen, bydd Tân yn arddangos ei goginio tân byw, sy’n rhoi cynnyrch yn gyntaf, wedi’i adeiladu o gwmpas golosg, fflam agored ac yn cynnwys y gorau o gynhwysion Cymreig lleol.

O dîm Tuk Tuk, bydd Wok Hei yn cynnig golwg gyntaf ar ei gysyniad Cantoneg cyfoes newydd cyn agor yn barhaol yn ddiweddarach yn 2026, gan gynnwys prydau fel tost corgimychiaid gourmet wedi’i orffen â sesame a dip poeth mayonnaise Kewpie.

Hefyd yn ymuno â’r arlwy mae Churros Hermanos, sy’n gweini churros fegan organig ffres wedi’u chwistrellu â siocled Gwlad Belg wedi’i doddi, a Meating Point UK, y busnes bwyd stryd teuluol o wlad Groeg sy’n adnabyddus am souvlaki unigryw a phlatiau cig fydd yn llenwi’ch bol.

Ar gyfer coffi a danteithion melys, bydd cwmni Gilly’s Coffee yn dod â’i siop goffi boblogaidd ar olwynion, sydd bellach yn ei nawfed flwyddyn o fasnachu, a bydd Lucky No.7 Coffee yn darparu coffi arbenigol blasus trwy ei siop symudol unigryw.

Mae Khione Deli, sydd wedi’i sefydlu ar dreftadaeth fwyd ddofn Sisilaidd, yn dod â blas Mediteranaidd trwy gynnyrch artisan gan gynnwys arancini a cannoli. Mae Cŵn Poeth Franks yn cwblhau’r gyfres gyntaf gyda frankfurters porc, sy’n cynnwys cig anifeiliaid o frîd brodorol ac sydd wedi’u magu yn yr awyr agored, y cyfan wedi’i weini mewn byns go iawn.

Mae’r tîm Feast On hefyd wedi cadarnhau eu hamserlen Sgyrsiau ac Arddangosiadau Byw, gan ddod â chogyddion, awduron a chrewyr i’r llwyfan dros y penwythnos, gydag ymddangosiadau gan Owen Morgan (Asador 44), James Sommerin (Home at Penarth), Anand George (Purple Poppadom) a Tudor Barber (Tân), gyda mwy o enwau i’w cyhoeddi o hyd.

Bydd Bwyd Caerdydd hefyd yn trefnu sgwrs banel yn archwilio’r prosiectau a’r partneriaethau a helpodd brifddinas Cymru i gyflawni statws Aur Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yn 2024.

Disgwylir i ragor o fasnachwyr gael eu cyhoeddi yn yr wythnosau nesaf. Am ragor o wybodaeth, dilynwch @feastonfoodfestival ar Instagram.

Mae tocynnau ar werth nawr, ar gael YMA.