Beth wyt ti'n edrych am?
Cyngor ar Deithio ar gyfer Monster Jam yn Stadiwm Principality ar 16 Mai
Dydd Mawrth, 12 Mai 2026
Ddydd Sadwrn, 16 Mai, bydd ffyrdd ar gau’n rhannol o amgylch Stadiwm Principality rhwng 11am a 7.30pm i sicrhau bod pobl yn gallu mynd i mewn ac allan o’r stadiwm yn ddiogel.
Dylai pawb sydd â thocyn nodi y bydd gwiriadau diogelwch manwl ar waith wrth fynd i mewn i’r stadiwm. Cynghorir cefnogwyr i adael bagiau mawr gartref a thalu sylw i’r rhestr o eitemau a waherddir yn principalitystadium.cymrucyn teithio i’r ddinas.
Cau Ffyrdd
Ar 16 Mai, bydd y ffyrdd canlynol ar gau rhwng 11.30am a 7.30pm:
- Stryd y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Cawl a Stryd Womanby
- Stryd Wood o Arglawdd Fitzhammon drwodd i gyffordd Heol Eglwys Fair â Lôn y Felin
- Stryd Tudor o’r gyffordd â Heol Clare, Gerddi Despenser, Heol Scott, Stryd Havelock a Stryd y Parc.
Bydd Stryd y Castell, Heol Orllewinol y Bont-faen, Heol y Dug a Ffordd y Brenin yn parhau i fod ar agor i draffig, ond bydd goleuadau traffig wrth gyffordd Gwesty’r Hilton i roi mynediad i fysus.
Yn ogystal: Bydd Rhodfa’r Orsaf ar gau am gyfnod byr i ganiatáu i Orsaf Heol y Frenhines weithredu’n ddiogel ar ôl i’r digwyddiad ddod i ben tua 6.15pm.
Parcio ar Ddiwrnod Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (Ceir a Choetsys)
Cyrraedd yno: Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4, ewch tua’r de ar yr A470 tua chanol y ddinas a dilyn yr arwyddion i’r ganolfan ddinesig.
Cost: £20 yn daladwy ar y diwrnod am gar a £30 i goets – mae taliadau cerdyn hefyd ar gael nawr.
Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.
Parcio ar Ddiwrnod y Digwyddiad yng Ngerddi Sophia
Cyrraedd yno: Gadewch ar gyffordd 32 yr M4
Cost: £20 i geir a £30 i goetsys – mae talu â cherdyn nawr ar gael.
Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am 12 hanner nos.
Sylwer:Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7.00pm. Gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy’n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.
Bws
Bysus lleol:
Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau
Ewch i wefan y cwmni bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.
Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i: Croeso i Stagecoach (stagecoachbus.com)
Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i: https://www.cardiffbus.com/principality-stadium
Am wasanaethau NAT, ewch i: https://www.natgroup.co.uk/
National Express:
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.
Allwch chi feicio neu gerdded?
Bydd y beicffyrdd a’r beicffyrdd dros dro o fewn yr ardal lle mae ffyrdd ar gau yn parhau ar agor i feicwyr eu defnyddio yn ystod y digwyddiad, ond gofynnwn i bob beiciwr gymryd gofal a thalu sylw.
Mae’r trefniadau cau ffyrdd yn berthnasol i bob cerbyd modur o unrhyw fath, ond nid i feiciau â phedalau.
Gall y rheini sy’n byw yng Nghaerdydd fod eisiau beicio neu gerdded.Mae ymchwil yn dangos bod 52% o’r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio’n hawdd mewn 20 munud.
Gwyddom hefyd yr hoffai 28% o drigolion Caerdydd nad ydyn nhw’n beicio ar hyn o bryd wneud hynny.
Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol byth oherwydd byddai teithio ar feic yn gynt nag yn y car yn ystod oriau brig neu ddigwyddiadau mawr.
Parcio i Siopwyr
Mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion).
Parcio i Bobl Anabl
Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol.
Edrychwch ar wefannau unigol am argaeledd.
Tacsis
Bydd safle tacsis Heol Eglwys Fair yn cau am 11am ac yn ailagor am 7.30pm.