Llwybr Treftadaeth Newydd yn archwilio hanes Parc y Rhath

Dydd Gwener, 8 Mai 2026 


 

Gall ymwelwyr ag un o barciau mwyaf poblogaidd Caerdydd archwilio ei hanes erbyn hyn drwy ddilyn llwybr treftadaeth newydd.

Mae’r llwybr deg cam o amgylch Parc y Rhath yn cynnwys cyfleoedd i ddysgu am y goeden eiconig a ddarparodd loches i’r Brenin Arthur ar un adeg yn ôl y chwedl leol, a chael gwybod am y cyngherddau a fyddai’n denu miloedd o bobl i wrando ar gerddoriaeth yn y parc.

Gall ymwelwyr ddarganfod hefyd sut y gwnaeth Gardd Rosod syfrdanol y parc helpu ymdrech y rhyfel yn ystod yr Ail Ryfel Byd a darganfod cysylltiadau’r parc â’r teulu enwog o arddwyr Pettigrew a fu’n allweddol wrth ddatblygu mannau gwyrdd Caerdydd.

Agorwyd Parc y Rhath yn swyddogol i’r cyhoedd ar 20 Mehefin 1894, ac mae ganddo bellach fwy na 130 mlynedd o hanes y tu ôl iddo.

Mae’r codau QR sydd wedi’u gosod ar arwyddion y llwybr yn caniatáu i ymwelwyr â’r parc ymchwilio’n ddyfnach byth i hanes a ddechreuodd pan roddodd Ardalydd Bute a thirfeddianwyr eraill ardal o gorstir i’r ddinas ym 1887. Dechreuodd y gwaith ar y parc ym 1889 ac fe’i hagorwyd yn swyddogol ar 20 Mehefin 1894.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: “Mae Parc y Rhath wedi bod yn un o barciau mwyaf poblogaidd Caerdydd ers amser maith. Gyda 130 mlynedd o hanes i’w ddarganfod, mae’r llwybr newydd hwn yn rheswm gwych arall i’w archwilio.”

Mae parciau Caerdydd yn blodeuo a mis Mai yw ‘Mis Cerdded Cenedlaethol’ hefyd, sy’n golygu mai dyma’r adeg ddelfrydol o’r flwyddyn i fynd am dro drwy un o fannau gwyrdd niferus y ddinas. I ddarganfod llwybr cerdded sy’n agos i chi, ewch i: https://www.caerdyddawyragored.com/cy/llwybrau/