Beth wyt ti'n edrych am?
Cau ffyrdd ar gyfer gorymdaith Pride ar 13 Mehefin
Dydd Mawrth, 9 Mehefin 2026
Caiff Gorymdaith Pride Cymru ei chynnal ddydd Sadwrn 13 Mehefin, a bydd mesurau cau ffyrdd ar waith yng nghanol y ddinas i hwyluso’r digwyddiad hwn.
Bydd yr Orymdaith PRIDE yn dechrau am 11am ar 13 Mehefin a disgwylir iddi orffen am 2 30pm, ond bydd Stryd y Castell yn aros ar gau tan hanner nos.
Bydd yr orymdaith yn dechrau ar Heol y Porth, ac yna’n symud i Stryd y Castell, y Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, yna i’r Ais, ymlaen i Stryd John, ar hyd Plas y Parc, ac i Heol y Brodyr Llwydion, Ffordd y Brenin ac yn ôl ar Stryd y Castell.
O ystyried hyn, bydd ffyrdd ar gau i sefydlu’r digwyddiad ac ar gyfer y digwyddiad ei hun.
Ar 13 Mehefin o 6am tan hanner nos, bydd y ffyrdd canlynol ar gau i sefydlu ac yna tynnu’r trefniadau ar gyfer yr orymdaith:
· Stryd y Castell o’r gyffordd â Heol y Porth, Heol y Dug, Ffordd y Brenin i’r gyffordd â Heol y Gogledd
· Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Gadeirlan.
Sylwer: Bydd Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Gadeirlan yn hygyrch i breswylwyr / bysus / tacsis o 6am tan 8am ac o 2.30pm tan hanner nos.
Rhwng 8am a 2.30pm:
Er mwyn hwyluso’r orymdaith, bydd mesurau cau ffyrdd treigl ar waith. Bydd y ffyrdd yn cael eu hailagor wrth i’r orymdaith basio pob ardal a byddant yn cael eu hailagor pan ystyrir ei bod yn ddiogel gwneud hynny.
· Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Stryd Fawr a Heol Eglwys Fair.
Rhwng 10am a 2pm:
· Stryd Wood, Sgwâr Canolog, Stryd y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott
· Heol Eglwys Fair o’r gyffordd â Stryd Wood, Lôn y Felin, yr Ais, Stryd John, Heol y Frenhines, Plas y Parc a Heol y Brodyr Llwydion o’r gyffordd â Boulevard De Nantes drwodd i Ffordd y Brenin.
Sylwch: bydd mynediad i’r gyfnewidfa fysus trwy Stryd Tudor / Stryd Wood yn cael ei gynnal.
Oherwydd y mesurau cau ffyrdd a fydd yn cael eu rhoi ar waith, rhwng 11am a 1.15pm, mae Bws Caerdydd yn cynghori eu cwsmeriaid y bydd bysus yn cael eu dargyfeirio i’r mannau lloeren, fel y maent yn ei wneud ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau mawr yn Stadiwm Principality – naill ai Ffordd Churchill i’r dwyrain, Heol y Brodyr Llwydion i’r gogledd neu Stryd Tudor i’r gorllewin. Bydd y Gyfnewidfa Fysus yn parhau i fod ar agor trwy Stryd Tudor/Stryd Wood.