Iris yn agor gofod dros dro cyffrous ac amlbwrpas yn St David’s Dewi Sant, prif leoliad manwerthu Caerdydd

Dydd Llun, 3 Awst 2026


 

  • Bydd gan Ŵyl Ffilm LHDT+ Gwobr Iris ofod sy’n wynebu’r cyhoedd yng nghanol ardal siopa’r ddinas
  • Bydd y gofod dros dro yn gartref i sinema fach, gosodiad celf, ac yn cynnig lle ar gyfer gweithgareddau cymunedol LHDTQ+
  • Mae 2026 yn nodi 20 mlynedd o adrodd straeon byd-eang yng ngŵyl fawreddog BAFTA a BIFA ar gyfer ffilmiau byrion Prydeinig, sy’n agor ddydd Llun 12 Hydref
  • “Bydd hyn yn rhoi cyfle i ni gyrraedd cynulleidfa newydd i Iris, ac wrth i ni symud i Cineworld, mae’r gofod dros dro ychydig o gamau o’r sinema.” Berwyn Rowlands

Mae trefnwyr Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris – sy’n dathlu straeon byd-eang a swyn Caerdydd  – yn falch o ddatgelu eu bod nhw’n agor gofod dros dro uchelgeisiol a chyffrous yn y gofod manwerthu mwyaf yng Nghymru, sef St David’s Dewi Sant yng Nghaerdydd, ddydd Llun 3 Awst 2026. Dyma’r tro cyntaf i’r ŵyl ffilmiau byrion ryngwladol gael lle cyhoeddus hygyrch y tu allan i ffenestr wythnos Iris. 

Dywedodd Helen Morgan, Cyfarwyddwr Canolfan Dewi Sant Caerdydd: “Rydym ni bob amser wedi edmygu gwaith Gwobr Iris wrth rannu straeon LHDTQ+, ac mae St David’s Dewi Sant yr un mor falch o’u cefnogi heddiw ag yr oeddem ni pan ddechreuon nhw gyntaf 20 mlynedd yn ôl. Rydym ni’n edrych ymlaen yn arbennig at gynnal gofod dros dro cyntaf erioed Iris, a fydd yn arddangos y gwneuthurwyr ffilmiau talentog i gynulleidfaoedd newydd yn y cyfnod cyn yr ŵyl ffilm ym mis Hydref.” 

 Ffocws y gofod dros dro fydd gosodiad a grëwyd gan Jenna Murphy, artist o Gaerdydd. Bydd Jenna yn creu Map o’r Byd ar gyfer y gofod dros dro, a bydd y map yn cael ei ddiweddaru bob pythefnos gydag enwau gwneuthurwyr ffilmiau a gwesteion sydd wedi cadarnhau y byddant yn mynychu’r ŵyl ym mis Hydref eleni. Bydd sinema fach ar y safle hefyd, a fydd yn dangos rhai o’r ffilmiau byrion gorau o archif Iris, ynghyd ag arddangosfa o Ailymweliad y Portreadau Pinc (2023), gan y ffotograffydd o Gymru, Dylan Lewis Thomas. 

Hefyd yn ymddangos bydd Iris ei hun, wedi’i ffotograffio gan ffrind hirhoedlog i Iris, y ffotograffydd Jon Pountney. Bydd y ddelwedd eiconig hon o Iris i’w gweld yn ffenestr y gofod dros dro, ond hefyd mewn sawl lle eleni wrth i ni ddathlu’r pen-blwydd yn 20 oed. 

Dywedodd Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gŵyl Gwobr Iris: “Rydym wrth ein bodd i gael y gofod dros dro anhygoel hwn yng nghanolfan siopa St David’s Dewi Sant. Bydd hyn yn rhoi cyfle i ni gyrraedd cynulleidfa newydd i Iris, ac wrth i ni symud i Cineworld, mae’r gofod dros dro ychydig o gamau o’r sinema. 

Byddwn yn dangos ffilmiau yn y gofod dros dro,agallwch gwrdd â thîm yr ŵyl a all eich tywys trwy ein rhaglen ac ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennychByddwn hefyd yn cynnal nifer o ddigwyddiadau arbennig gyda phartneriaid, a fydd i gyd yn cael eu datgelu dros yr ychydig wythnosau nesaf.

Mae’r gofod dros dro wedi’i leoli ar lefel isaf Arcêd Fawr St David’s Dewi Sant, yn agos at John Lewis, Castle Fine Art a Reiss. 

Mae Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris wedi croesawu cannoedd o wneuthurwyr ffilmiau, cynhyrchwyr, talent actio, enwau mawr yn y diwydiant, ac ni fydd eleni yn wahanol, gyda’r rhaglen lawn i’w datgelu eto. Eleni, mae Iris wedi cyflwyno ei nifer cryfaf o gyflwyniadau agored hyd yma, gan gyfuno cyfaint torri record â lledaeniad rhyngwladol eang a strategaeth mynediad wedi’i chytbwysu’n ofalus. 

Bydd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Gorau Ym Mhrydain Gwobr Iris, a noddir gan Film4 a Pinewood Studios, yn cael ei datgelu ar 22 Awst 2026, mewn digwyddiad arbennig a gynhelir gan Scene Festival, Manceinion. 

Mae manylion llawn am Iris i’w cael yma: www.irisprize.org    

Bydd Gwobr Iris yn dychwelyd yn 2026 am yr 20fed rhifyn ddydd Llun 12 Hydref tan ddydd Sul 18 Hydref.  Mae’r wyl yn derbyn ceisiadau ar gyfer y gwobrau nawr.  

Prif noddwyr yr ŵyl yw: Sefydliad Michael Bishop; Cymru Greadigol, un o asiantaethau Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi’r sectorau creadigol yng Nghymru; y BFI sy’n dyfarnu arian gan y Loteri Genedlaethol; Ffilm Cymru Wales; Film4, Prifysgol De Cymru; Co-op Respect; Ymddiried – Media Grants Cymru; Bad Wolf; S4C; Grŵp Gorilla; Pinewood Studios; Cylchgrawn Attitude; Cylchgrawn Diva; Movie Marker; The Ministry Venues a Trafnidiaeth Cymru. Mae’r ŵyl hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Cyngor Prydeinig Cymru, BAFTA Cymru, Pride Cymru a Croeso Caerdydd.