Cau ffyrdd ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd ddydd Sul, 4 Hydref, 2026

Dydd Llun, 14 Medi 2026


 

Gyda Hanner Marathon Caerdydd yn cael ei gynnal ddydd Sul, 4 Hydref, 2026, bydd cannoedd o redwyr yn cymryd rhan yn y ras, ac mae disgwyl i’r ddinas fod yn eithriadol o brysur, felly cynghorir preswylwyr ac ymwelwyr i gynllunio ymlaen llaw a gadael digon o amser ar gyfer eu taith.

Bydd cau ffyrdd yn dechrau cael ei roi ar waith yn ardal y Ganolfan Ddinesig o 5am ddydd Mercher, 30 Medi er mwyn caniatáu i bentref y ras a seilwaith y digwyddiad gael eu sefydlu.

Cau Ffyrdd y Ganolfan Ddinesig

O 5am ddydd Mercher, 30 Medi tan 11.59pm ddydd Llun, 5 Hydref, bydd Heol y Coleg ar gau o’r gyffordd â Rhodfa’r Amgueddfa i’r gyffordd â Rhodfa’r Brenin Edward VII.

Bydd cerbydau’n gallu cael mynediad i fannau parcio preifat a bydd nwyddau’n gallu cael eu cludo tan 9am ddydd Sul, 4 Hydref.

O 5am ddydd Iau, 1 Hydref tan 11.59pm ddydd Llun, 5 Hydref, bydd Rhodfa’r Brenin Edward VII ar gau o’i ben caeedig gyda Boulevard de Nantes i’r gyffordd â Heol Neuadd y Ddinas.

O 5am ddydd Gwener, 2 Hydref tan 11.59pm ddydd Sul, 4 Hydref, bydd y ffyrdd canlynol ar gau:

  • Rhodfa’r Brenin Edward VII o’r pen caeedig â Boulevard de Nantes i’r gyffordd â Heol Neuadd Y Ddinas; ac o’r gyffordd â Heol Corbett i’r gyffordd â Heol Neuadd y Ddinas.
  • Rhodfa’r Amgueddfa o’r pen caeedig â Heol Corbett i’r gyffordd â Heol Gerddi’r Orsedd.
  • Heol Gerddi’r Orsedd o’r gyffordd â Phlas y Parc i’r gyffordd â Rhodfa’r Amgueddfa.
  • Heol Neuadd y Ddinas o’r gyffordd â Heol y Gogledd i’r gyffordd â Rhodfa’r Amgueddfa.

Bydd cerbydau’n gallu cael mynediad i fannau parcio preifat a bydd nwyddau’n gallu cael eu cludo tan 9am ddydd Sul, 4 Hydref. Bydd mynediad i wasanaethau brys a Heddlu De Cymru yn cael ei gynnal lle bo angen yn ystod y digwyddiad.

Cau Ffyrdd ar Ddiwrnod y Ras

Bydd cyfres o ffyrdd ar gau ar gyfer y digwyddiad ddydd Sul, 4 Hydref.

Rhwng 4am a 12 hanner dydd, bydd y ffyrdd canlynol ar gau:

  • Heol y Gogledd i’r de o’r gyffordd â Boulevard de Nantes i’r gyffordd â’r A4161.
  • Yr A4161 o’r gyffordd â Heol y Gogledd i’r gyffordd â Ffordd y Brenin.
  • Ffordd y Brenin o’r gyffordd â’r A4161 i’r gyffordd â Heol y Dug.
  • Heol y Dug a Stryd y Castell ar eu hyd.
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Stryd y Castell i’r gyffordd â Heol y Gadeirlan.

Rhwng 6am ac 10.45am

Bydd Heol y Gogledd ar gau o’r gyffordd â Heol Colum i’r gyffordd â Boulevard de Nantes.

Bydd mynediad i’r Gored Ddu ar gael trwy Blas y Parc, Heol Corbett a Heol y Gogledd tua’r gogledd.

Rhwng 10am a 3.10pm

Bydd y ffyrdd canlynol ar gau:

  • Heol Colum.
  • Plas y Parc o’r gyffordd â Maes Eglwys Andreas at y gyffordd â Heol Colum.

Bydd llwybrau dargyfeirio ar waith lle bo angen.

Trefniadau mynediad yn ystod mesurau diogelwch

Hwyluso gosod mesurau diogelwch dros dro yn ystod y digwyddiad:

  • Bydd mynediad i Beatty Avenue o Heol Ogleddol y Llyn yn unig, gan gynnwys Gerddi Jellicoe, Keys Avenue a Tyrwhitt Crescent.
  • Rheolir mynediad i Sgwâr y Frenhines Ann trwy Heol Colum a Heol Corbett, gyda cherbydau yn ymadael trwy Heol Corbett a Ffordd y Gogledd tua’r gogledd.
  • Bydd Lady Mary Road ar gau o’r gyffordd â Maryport Road i’r gyffordd â Heol Ddwyreiniol y Llyn.

Cau Ffyrdd Fesul Un ar gyfer y Digwyddiad

Ar ddydd Sul, 4 Hydref rhwng 8.30am a 3.10pm, bydd cau ffyrdd fesul un ar hyd llwybr y ras, gyda ffyrdd yn ailagor cyn gynted ag y bydd yn ddiogel gwneud hynny.

Rhwng 8.30am a 3.10pm, bydd cau ffyrdd fesul un yn digwydd i hwyluso’r digwyddiad.

Bydd y llwybr yn teithio ar hyd:

  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o Heol y Gadeirlan.
  • Stryd Wellington, Heol Lecwydd a Heol y Grange.
  • Heol Penarth, Morglawdd Bae Caerdydd, Rhodfa’r Harbwr a Roald Dahl Plas
  • Trwy ffin Bro Morgannwg – Terra Nova Way a Penarth Portway
  • Rhodfa’r Harbwr a Roald Dahl Plas.
  • Cei Britannia, Stryd Pen y Lanfa a Plas Bute.
  • Rhodfa Lloyd George.
  • Stryd Herbert, Stryd Tyndall, Stryd Tyndall Ddwyreiniol a Heol Windsor.
  • Stryd Adam, Plas Fitzalan yn croesi Heol Casnewydd.
  • Llwyn y Gorllewin, Heol Richmond a Heol Albany.
  • Heol Pen-y-lan, Heol Blenheim, Heol Marlborough a Heol Ninian.
  • Heol y Dderwen Deg, Heol Ddwyreiniol y Llyn a Heol Orllewinol y Llyn.
  • Heol y Dderwen Deg, Teras Cathays, Heol Corbett.
  • Rhodfa’r Amgueddfa, lle mae’r ras yn gorffen.

Bydd mynediad cerbydau i Fynwent Cathays yn cael ei hwyluso trwy Heol Allensbank nes bod Heol y Dderwen Deg yn ailagor, ac ar ôl hynny bydd mynediad yn ailddechrau trwy’r brif fynedfa.

Mynediad Bae Caerdydd

Bydd preswylwyr a busnesau ym Mae Caerdydd yn derbyn gwybodaeth ychwanegol yn dangos y llwybr dargyfeirio y bydd y Cyngor yn ei reoli er mwyn caniatáu iddynt fynd i mewn a gadael yn ystod y digwyddiad.

Bydd y llwybr dargyfeirio yn gweithredu trwy:

  • Rhodfa Celerity
  • Rhodfa Craiglee
  • Letton Way
  • Rhodfa Lloyd George
  • Plas Bute

Cyn gynted ag y bydd y ffyrdd yn cael eu hail-agor yn yr ardal, bydd mynd i mewn a gadael yn dychwelyd i’r arfer.