Beth wyt ti'n edrych am?
CGG BBC | Caneuon Tynged
Dyddiad(au)
20 Meh 2025
Amseroedd
19:30 - 22:00
Gwybodaeth am y Digwyddiad
CELFYDD | BRWD | DARLUNIADOL
Os y bwriadwyd serenadau yn hanesyddol fel cerddoriaeth ar gyfer adloniant, yna mae Brahms yn sicr wedi rhagori yn ei Serenâd Rhif 2. Mae’r gwaith cynnar hwn yn llawn cymeriad Brahmsaidd o’r cychwyn cyntaf gyda’i gynhesrwydd ysgafn, ei rythmau croes bywiog, a’i alawon toreithiog i swyno unrhyw wrandäwr.
Yr un mor nodweddiadol, ond yn fwy pruddglwyfus ei natur, y mae gosodiad llesmeiriol Brahms o’r gerdd Schicksalslied gan Friedrich Hölderlin. Mewn dau bennill sy’n cyferbynnu bywydau’r tragwyddol ddedwydd â’r rhai sy’n dioddef ffawd greulon, mae Brahms yn symud rhwng yr ysgafn a’r didaro yn erbyn y tymhestlog. I’r gwrthwyneb, mae Stravinsky yn ei Symphony of Psalms yn defnyddio dulliau sy’n adleisio’r siant Gregoraidd traddodiadol, ynghyd â gwrthbwynt ffiwgaidd a motiffau dawns ecstatig i bortreadu testun y salmau…dyma waith o athrylith pur! I arwain Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn eu cyngerdd olaf yn ystod tymor Caerdydd, mae’n bleser gennym groesawu’r Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, yn ôl.
Brahms Serenade Rhif 2
Brahms Schicksalslied
Stravinsky Symphony of Psalms
–
Ryan Bancroft arweinydd
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC