Beth wyt ti'n edrych am?
Oasis | Live ’25
Dyddiad(au)
05 Gorff 2025
Amseroedd
17:00
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Heddiw mae Oasis yn dod â blynyddoedd o ddyfalu dwys i ben gyda’r cadarnhad o gyfres o sioeau hir-ddisgwyliedig yn y DU ac Iwerddon yn ffurfio cymal domestig eu taith byd OASIS LIVE 25. Bydd Oasis yn dod i Gaerdydd, Manceinion, Llundain, Caeredin a Dulyn yn haf 2025. Eu hunig sioeau yn Ewrop y flwyddyn nesaf, dyma fydd un o’r perfformiadau byw mwyaf a thocynnau prinnaf y degawd.
Mae profiad byw Oasis yn wahanol i unrhyw beth arall. Y rhuad sy’n eu cyfarch wrth iddynt gamu ar y llwyfan. Set llawn caneuon clasurol. Y teimlad o fod mewn torf yn canu’n ôl bob gair. Ac yn enwedig y carisma, y sbarc a’r dwyster sydd ond yn dod pan fydd Liam a Noel Gallagher ar y llwyfan gyda’i gilydd.
Mae’r brodyr wedi ffynnu gyda’u prosiectau eu hunain ers i’r band wahanu yn 2009, gyda deg albwm yn cyrraedd y lle 1af yn y DU rhyngddynt yn ogystal â bod y prif berfformwyr mewn gwyliau di-ri a sioeau stadiwm ac arena. Ond mae Oasis yn rhywbeth arall. Does dim moment dadlennu fawr wedi bod sydd wedi tanio’r aduniad – dim ond y sylweddoliad graddol fod yr amser yn iawn. Ond mae’n rhaid i’r amseru fod yn ddylanwad isymwybod. Mae’r dydd Iau hwn yn cynrychioli deng mlynedd ar hugain i’r diwrnod ers rhyddhau eu halbwm cyntaf gwefreiddiol ‘Definitely Maybe’, tra bydd yr ail record yr un mor hanfodol ‘(What’s The Story) Morning Glory?’ yn cyrraedd yr un pen-blwydd hwnnw yn ystod 2025.
Dywedodd Oasis,
“Mae’r gynnau mynd yn dawel.
Mae’r sêr wedi’u halinio.
Mae’r aros mawr wedi dod i ben.
Dewch i weld.
Ni fydd yn cael ei darlledu.”
Mae eu habsenoldeb wedi chwyddo chwedl Oasis. Mae’r caneuon clasurol y mae Liam a Noel wedi’u chwarae yn eu sioeau unigol wedi ysbrydoli galw aruthrol gan y cyhoedd i’r band wneud y cam hir–ddisgwyliedig o ddychwelyd, tra bod ffilm ‘Knebworth 1996’ yn rhoi blas o’u perfformiadau byw cyffrous i genhedlaeth hollol newydd. Maen nhw’n parhau i fod yn atyniad enfawr yn yr oes ffrydio, gyda 21.5 miliwn o wrandawyr misol yn Spotify yn unig a chyfanswm o 12 biliwn o ffrydiau hyd yn hyn.