Beth wyt ti'n edrych am?
Tide-Traveller
Dyddiad(au)
05 Gorff 2025 - 13 Gorff 2025
Amseroedd
10:00 - 15:00
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Lighthouse Theatre ac Awdurdod Harbwr Caerdydd yn cyflwyno…Tide-Traveller!
Taith ddifyr, ymdrochol, sy’n dathlu pen-blwydd Awdurdod Harbwr Caerdydd (AHC) yn 25 oed. Mae Lighthouse Theatre yn dychwelyd gyda theithiau perfformio ym Mae Caerdydd ar droed ac ar gwch!
Bydd y sioe hwyliog ac ysgafn hon yn mynd â chi ar daith trwy hanes diddorol y Bae, y Morglawdd ac AHC, gyda straeon, slapstic, clasuron karaoke a siantis môr.
Ewch gyda thywyswyr sy’n actorion a theithio trwy amser, gan gwrdd â chymeriadau fel Dai,sydd wedi bod yn cadw ein traed yn sych ers 25 mlynedd trwy ei waith gydag AHC; Ardalydd Bute; a haid o wyddau.
Dyddiadau’r Daith:
Dydd Sadwrn 5 Gorffennaf
Dydd Sul 6 Gorffennaf
Dydd Sadwrn 12 Gorffennaf
Dydd Sul 13 Gorffennaf
Amseroedd y daith: 10am – hanner dydd, 1pm – 3pm
Lleoliad: Cwrdd yn adeilad y Pierhead, a gorffen ar Forglawdd Bae Caerdydd, ger y man chwarae.
Cadwch le nawr am £5 y pen yn unig, gan gynnwys taith ar gwch.