Ffyrdd fydd ar gau ar gyfer Hanner Marathon Oysho Caerdydd ar 5 Hydref

Wednesday, 24 September 2025


 

Gyda Hanner Marathon Oysho Caerdydd yn cael ei gynnal ddydd Sul, 5 Hydref, mae disgwyl i’r ddinas fod yn eithriadol o brysur, felly cynghorir trigolion ac ymwelwyr i gynllunio rhag blaen a gadael digon o amser ar gyfer eu taith.

O 5am ddydd Mercher 1 Hydref, byddwn yn dechrau cau ffyrdd yn y Ganolfan Ddinesig i baratoi pentref y ras ar gyfer y digwyddiad.

O 5am ymlaen Dydd Iau, 2 Hydref tan ychydig cyn hanner nos ddydd Llun 6 Hydref

Rhodfa’r Brenin Edward VII i Boulevard de Nantes i’r gyffordd â Heol Neuadd y Ddinas

O 5am ymlaen ar ddydd Sadwrn 4 tan ychydig cyn hanner nos ar ddydd Sul 5 Hydref bydd y ffyrdd canlynol ar gau:

  • Rhodfa’r Brenin Edward VII (Cyffordd â Boulevard de Nantes i’r gyffordd â Heol Neuadd y Ddinas, ac o’r gyffordd â Heol Corbett i’r gyffordd â Heol Neuadd y Ddinas)
  • Rhodfa’r Amgueddfa o’r pen caeedig â Heol Corbett i’r gyffordd â Heol Gerddi’r Orsedd
  • Heol Gerddi’r Orsedd o’r gyffordd â Phlas y Parc i’r gyffordd â Rhodfa’r Amgueddfa
  • Heol Neuadd y Ddinas o’r gyffordd â Rhodfa’r Amgueddfa i’r gyffordd â Heol y Gogledd.

Caniateir mynediad ar gyfer parcio preifat a danfoniadau tan 9.00am Dydd Sadwrn 4 Hydref – Bydd mynediad ar gyfer gwasanaethau brys yn cael ei ganiatáu o Heol y Gogledd pan fydd y digwyddiad yn cael ei gynnal.

Bydd cyfres o ffyrdd ar gau ar gyfer y digwyddiad ddydd Sul, 5 Hydref, yn ystod yr amseroedd canlynol:

Rhwng 6am a 10.45am bydd y ffordd ganlynol ar gau: Ffordd y Gogledd o’r gyffordd â Colum Road i’r gyffordd â Boulevard de Nantes (ceir mynediad i Blackweir drwy Blas-y-Parc/Heol Corbett, tua’r gogledd ar Heol y Gogledd).

Bydd y ffyrdd canlynol ar gau rhwng 4am a 12 hanner dydd:

  • Heol y Gogledd i’r de o’r gyffordd â Boulevard de Nantes i’r gyffordd â’r A4161
  • Yr A4161 o’r gyffordd â Heol y Gogledd i’r gyffordd â Ffordd y Brenin,
  • Ffordd y Brenin o’r gyffordd â’r A4161 i’r gyffordd â Heol y Dug
  • Heol y Dug a Stryd y Castell
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Stryd y Castell i’r gyffordd â Heol y Gadeirlan.

Bydd y ffyrdd canlynol ar gau rhwng 10am a 3.10pm:

  • Heol Colum
  • Plas y Parc o’r gyffordd â Maes St Andrew i’r gyffordd â Heol Colum.

Trefniadau mynediad tra bo’r mesurau diogelwch yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer y digwyddiad.

Ceir mynediad i Beatty Avenue o’r gyffordd â Heol Ogleddol y Llyn yn unig (gan gynnwys Gerddi Jellicoe, Keyes Avenue a Tyrwhitt Crescent)

Rheolir mynediad i Sgwâr y Frenhines Ann trwy Heol Colum/Heol Corbett a gellir ymadael trwy Heol Corbett/Heol y Gogledd tua’r gogledd.

Lady Mary Road o’r gyffordd â Maryport Road at y gyffordd â Heol Ddwyreiniol y Llyn.

Rhwng 8.30am a 3.10pm, bydd ffordd dreigl ar gau i hwyluso’r digwyddiad.

  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Gadeirlan
  • Stryd Wellington, Heol Lecwydd a Heol y Grange
  • Heol Penarth, Morglawdd Bae Caerdydd, Rhodfa’r Harbwr a Roald Dahl Plas
  • Cei Britannia, Stryd Pen y Lanfa, Plas Bute, Rhodfa Lloyd George
  • Stryd Herbert, Stryd Tyndall, Stryd Tyndall Ddwyreiniol a Heol Windsor
  • Stryd Adam, Plas Fitzalan yn mynd ar draws Heol Casnewydd
  • Llwyn y Gorllewin, Heol Richmond a Heol Albany
  • Heol Marlborough, Heol Blenheim, Heol Pen-y-lan a Heol Ninian
  • Heol y Dderwen Deg, Heol Ddwyreiniol y Llyn a Heol Orllewinol y Llyn – bydd mynediad i fynwent Cathays yn cael ei hwyluso drwy Heol Allensbank hyd nes y bydd Heol y Dderwen Deg yn agor, pan geir mynediad eto drwy’r brif fynedfa.
  • Heol y Dderwen Deg, Teras Cathays, Heol Corbett a Rhodfa’r Amgueddfa

Sylwer – bydd trigolion a busnesau ym Mae Caerdydd yn derbyn llythyr ychwanegol yn dangos y llwybr dargyfeirio y bydd y Cyngor yn llwyddo i ganiatáu mynediad ac allan. Bydd hyn trwy Rodfa Celerity, Rhodfe Craiglee, Letton Way, Rhodfa Lloyd George a Phlas Bute. Cyn gynted ag y bydd y ffyrdd yn cael eu hail-agor o fewn yr ardal honno, bydd mynediad ac allanfa yn ailddechrau fel arfer.

Os caiff y llwybr ei gwblhau’n gynharach, yna bydd y ffyrdd hyn yn ailagor cyn 3.10pm.

Bydd y giât bysiau ar Heol y Porth yn cael ei atal dros dro drwy gydol y digwyddiad hwn o 8.30am tan 3.10pm ar Ddydd Sul 5 Hydref.