Beth wyt ti'n edrych am?
Owain & Henry
Dyddiad(au)
05 Tach 2026 - 28 Tach 2026
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Stori epig am bŵer, hunaniaeth genedlaethol a phris tawelwch.
Yn 1400, mae Owain Glyndŵr (Michael Sheen), arglwydd tir bach gogleddol mae pobl wedi anghofio amdano, yn cael ei ddatgan yn herwr gan y Brenin Harri IV. Yn hytrach nag ildio i’w dynged, mae Owain yn codi gwrthryfel. Wrth i daniad ei derfysg ledu ar draws y ffin, mae Harri yn ei chael hi’n anodd cadw’r orsedd ac mae’r ddau ddyn yn ffeindio eu hunain ar ochrau cyferbyn hanes; un yn brwydro i oroesi, a’r llall i gael pŵer.