Beth wyt ti'n edrych am?
Blood Brothers
Dyddiad(au)
16 Chwe 2027 - 20 Chwe 2027
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Wedi’i ysgrifennu gan Willy Russell, mae BLOOD BROTHERS yn adrodd hanes gafaelgar ac emosiynol efeilliaid sy’n cael eu gwahanu adeg eu geni, yn cael eu magu mewn bydoedd tra gwahanol, dim ond i gwrdd unwaith eto gyda chanlyniadau tyngedfennol.
Ychydig iawn o sioeau gerdd sydd wedi derbyn cymaint o glod â BLOOD BROTHERS, sydd wedi ennill llu o wobrau. Rhedodd y cynhyrchiad am fwy na 10,000 o berfformiadau yn y West End yn Llundain, ac mae’n cael ei adnabod fel y ‘sioe gerdd lle mae pawb yn codi i gymeradwyo’ oherwydd, yn anochel, mae’n “dod â’r gynulleidfa i’w thraed yn rhuo ei chymeradwyaeth” (Daily Mail).
Mae’r sgôr fendigedig yn cynnwys Bright New Day, Marilyn Monroe a’r gân boblogaidd llawn emosiwn, Tell Me It’s Not True.