Beth wyt ti'n edrych am?
Just For One Day | The Live Aid Musical
Dyddiad(au)
20 Ebr 2027 - 24 Ebr 2027
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Profwch y noson fwyaf pwerus o gerddoriaeth fyddwch chi erioed yn ei chael yn y theatr yn Just for One Day: The Live Aid Musical, gyda rhai o’r caneuon mwyaf eiconig gan Bob Dylan, David Bowie, The Who, U2, Queen, Madonna, Sting, Elton John, Paul McCartney, Diana Ross a mwy.
40 mlynedd ar ôl y gig eiconig a ailysgrifennodd hanes cerddoriaeth, dewch i ail-fyw llawenydd Live Aid mewn ffordd gwbl newydd a difyr!
Wedi’i berfformio gan ensemble gwefreiddiol yn llawn sêr roc go iawn, mae Just for One Day: The Live Aid Musical yn noson lawen a llawn emosiwn yn y theatr.
Mae’r sioe gerdd yma a gafodd ei henwebu am wobr Olivier yn rocio ledled y DU ac Iwerddon ar ei thaith gyntaf o fis Mawrth 2027 ar ôl syfrdanu cynulleidfaoedd mewn dau dymor a werthodd allan yn y West End. Bydd yn eich anfon chi allan i’r nos gyda gwên ar eich wyneb mewn cyflwr o ewfforia llwyr.