Beth wyt ti'n edrych am?
Chris Packham
Dyddiad(au)
11 Tach 2026
Amseroedd
19:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Am bron i ddeugain mlynedd, mae Chris Packham wedi bod yn llais i natur yn y DU. Trwy ei waith arloesol ar The Really Wild Show, Springwatch, Inside Our Autistic Minds ac Earth, mae Chris wedi neilltuo ei fywyd rhyfeddol i ymgysylltu â’r byd naturiol – ac yn ein hannog ni i gyd i wneud yr un peth.
Ymunwch â Chris wrth iddo agor gwyddoniadur o straeon o’i oes o chwilfrydedd ac argyhoeddiad. O ystafell wely ei blentyndod a oedd yn llawn penglogau llwynogod, wyau adar a jariau jam yn llawn penbyliaid, nadroedd a madfallod, llwynogod a moch daear, i’r anturiaethau gwyllt a ddatblygodd ei gariad at natur, a’r pethau ymarferol y gallwn ni i gyd eu gwneud yn ein bywydau bob dydd i wneud gwahaniaeth mewn cyfnod o argyfwng.
Profwch noson sy’n llawn darganfyddiadau, gyda’r cyfle i weld sbesimenau rhyfeddol o gasgliad Chris ei hun yn agos, clywed straeon sydd heb eu hadrodd o’r blaen am yr hyn sydd wedi digwydd y tu ôl i’r camera, a phrofi ei angerdd heintus am y byd byw.
Os ydych chi’n poeni am bopeth sy’n llusgo, cropian, llithro a sleifio – os ydych chi’n credu bod modd achub y byd o hyd – yna dyma’ch noson chi. Oherwydd nid ffuglen yw’r deinosor yn yr ystafell. Mae’n real. Ac mae’n mynnu eich sylw!