Beth wyt ti'n edrych am?
Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd 2026
Dyddiad(au)
02 Hyd 2026 - 17 Hyd 2026
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Bydd gŵyl 2026 yn cael ei chynnal o ddydd Gwener, 2 Hydref, i ddydd Sadwrn, 17 Hydref, gan lenwi lleoliadau, clybiau a safleoedd dros dro ledled Caerdydd gyda phythefnos o raglenni beiddgar sy’n gwthio ffiniau arloesedd, perfformio a thechnoleg ym maes cerddoriaeth.
Yn cynnwys sêr byd-eang, talent leol, digwyddiadau ymdrochol, sgyrsiau, gweithiau gosod, cydweithrediadau unigryw a digwyddiadau untro na ellir eu colli, bydd yr ŵyl unwaith eto yn cwmpasu:
- Sŵn – gŵyl flynyddol Caerdydd ar gyfer cerddoriaeth newydd.
- Llais – penwythnos celfyddydau rhyngwladol Canolfan Mileniwm Cymru.
- Gwobr Gerddoriaeth Gymreig – yn dathlu’r gerddoriaeth orau a wnaed yng Nghymru neu gan y Cymry.