Beth wyt ti'n edrych am?
The Ivy Caerdydd: Noson yng nghwmni Marmalade
Dyddiad(au)
12 Meh 2026
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Ymunwch â ni yn The Ivy Caerdydd am noson fythgofiadwy o hudoliaeth, adloniant ac o ddathlu i gefnogi Pride Cymru.
Yn cynnwys Marmalade, seren RuPaul’s Drag Race UK – sy’n adnabyddus am ei charisma, ei chomedi a’i pherfformiadau bythgofiadwy, mae’r noson unigryw “agos a phersonol” hon yn addo adloniant byw syfrdanol, digon o chwerthin, ac awyrgylch trydanol o’r dechrau i’r diwedd.
Bydd gwesteion yn mwynhau coctel wrth gyrraedd, a noddir gan Ddistyllfa Hensol, byrbrydau wrth y bwrdd, a chinio dau gwrs blasus cyn mwynhau bach o ddawnsio gydag adloniant DJ gan yr Esther Parade gwych. Mae’r noson hon, a gynhelir ar nos Wener 12 Mehefin o 7pm tan hwyr y nos, yn ddathliad o falchder, cerddoriaeth a chwmni gwych mewn steil Ivy go iawn – gyda chanran o bob tocyn a werthir yn cael ei rhoi i Pride Cymru.