Cyngor teithio ar gyfer Cyngherddau'r Haf yn Stadiwm Principality

Dydd Mercher, 3 Mehefin 2026


 

Bydd dau gyngerdd yn cael eu cynnal yn Stadiwm Principality yr haf hwn, ar 16 Mehefin a 28 Mehefin. Er mwyn sicrhau bod pawb sy’n mynychu’r cyngherddau yn gallu mynd i mewn ac allan o’r lleoliad yn ddiogel, bydd ffyrdd ar gau yng nghanol dinas Caerdydd o 4pm tan hanner nos ar gyfer y digwyddiadau hyn.

Take That: Dydd Mawrth 16 Mehefin

Metallica: Dydd Sul 28 Mehefin

Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur iawn oherwydd y cyngherddau hyn – felly cynlluniwch ymlaen llaw – ac osgowch y tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio’r cyfleuster parcio a theithio yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn Lecwydd – CF11 8AZ.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y draffordd a’r cefnffyrdd, ewch i Gwefan Traffig Cymru, neu @TrafficWalesS ar Trydar a Cysylltu.

Cynghorir yn gryf i unrhyw un sy’n mynd i’r cyngherddau hyn i gynllunio eu taith o flaen llaw a mynd i mewn i’r stadiwm yn gynnar.  Darllenwch y rhestr o eitemau gwaharddedig ar  Stadiwm principality.wales, yn enwedig y polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i’r ddinas.

 

Cau Ffyrdd

Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar o 7am i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr a fydd yn ciwio.

Ar gyfer yr holl gyngherddau, bydd y ffyrdd canlynol ar gau fel rhan o’r trefniant cau ffyrdd llawn yng nghanol y ddinas am 3pm tan ganol nos.

  • Ffordd y Brenin o’r gyffordd â Heol y Gogledd i’r gyffordd â Heol y Dug.
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Gadeirlan i’r gyffordd â Heol y Porth.
  • Stryd Tudor o’r gyffordd â Heol Clare i’r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Arglawdd Fitzhamon).
  • Plantagenet Street a Beauchamp Street o’r cyffyrdd â Despenser Place i’r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
  • Bydd y ffyrdd canlynol ar gau’n gyfan gwbl:  Heol y Dug, Stryd y Castell, Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, Y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
  • Bydd mynediad i fysus yn unig i Rodfa’r Orsaf a Stryd Guildford o’r gyffordd â Heol Casnewydd at y gyffordd â Ffordd Churchill yn ystod yr amseroedd cau ffyrdd.  Y rheswm dros hyn yw sicrhau mynediad dibynadwy i fysus at y mannau lloeren yn Ffordd Churchill.
  • Yn ogystal, bydd Heol Penarth ar gau 30 munud cyn i’r cyngherddau orffen ac am hyd at awr ar ôl iddyn nhw orffen er diogelwch teithwyr trên sy’n cyrraedd ac yn gadael yr orsaf drenau.
  • Bydd Rhodfa’r Orsaf hefyd yn cau am gyfnod byr i ganiatáu i Orsaf Heol y Frenhines weithredu’n ddiogel am 1 awr 30 munud ar ôl i’r digwyddiad ddod i ben (tua 10.15pm – 11.45pm)

Ychwanegiadau:
Civic Centre, Godfrey Road Rheolir mynediad i ran o’r Ganolfan Ddinesig drwy’r dydd. Caniateir mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio preifat.

Mae’r ffyrdd yr effeithir arnynt yn cynnwys Rhodfa’r Brenin Edward VII, Rhodfa’r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi’r Orsedd.

 

Trenau

Great Western Railway (GWR)

Bydd GWR yn cynnal gwasanaethau ychwanegol i helpu cwsmeriaid i gyrraedd adref wedi cyngherddau’r haf.  Bydd trenau ychwanegol o Gaerdydd Canolog i Abertawe, Casnewydd, Bryste a Swindon, gyda digon o leoedd parcio ar gael ym meysydd parcio’r orsaf.

Fodd bynnag, mae disgwyl i drenau fod yn brysur iawn yn syth ar ôl y cyngherddau ac fe fydd system giwio ar waith y tu allan i’r orsaf i helpu pobl i gyrraedd y trenau’n ddiogel.

Dylai’r rhai sy’n teithio’n bellach wirio gwasanaethau cysylltiol, ac amser eu trên olaf adref, yn www.gwr.com/check

Bydd Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn darparu capasiti ychwanegol lle bo’n bosibl ar lwybrau i ac o Gaerdydd ar gyfer cyngherddau Take That a Metallica. Anogir pob teithiwr i gynllunio ymlaen llaw a chaniatáu digon o amser ar gyfer eu taith.

Bydd system giwio lawn ar waith gyda theithwyr yn teithio i’r Cymoedd neu Fro Morgannwg yn cael eu cyfeirio i orsaf Heol y Frenhines Caerdydd ar ôl y digwyddiad. Bydd yr holl giwiau eraill, gan gynnwys Glynebwy a Maesteg, yng ngorsaf Caerdydd Canolog.

Bydd ciwio’n dechrau o 9:45pm yn y ddwy orsaf gyda’r ciw hygyrchedd ar gael yn Caerdydd Canolog.

Bydd Cyfnewidfa Fysus Caerdydd yn cau yn unol â chau ffyrdd a bydd meysydd parcio ar gau hefyd yng ngorsaf Caerdydd Canolog. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Digwyddiadau | Trafnidiaeth Cymru

Bydd gwiriadau refeniw cyn ac ar ôl y digwyddiad yn cael eu cynnal yn y ddwy orsaf a dylai teithwyr sicrhau eu bod wedi prynu eu tocyn trên cyn mynd i mewn i’r system giwio.

Nodyn i’ch atgoffa bod talu wrth fynd ar gael ar hyn o bryd ar wasanaethau TC a Thraws Gwlad ar draws rhwydwaith Metro De Cymru (Ddim ar gael ar wasanaethau Great Western Railway [GWR]).

Dylai teithwyr sy’n defnyddio dull talu wrth fynd dapio i mewn yn eu gorsaf ymadael ac yna tapio allan gan ddefnyddio’r un dull talu drwy’r lonydd refeniw talu wrth fynd pwrpasol wrth adael Caerdydd Canolog. Bydd gwirfoddolwyr Trafnidiaeth Cymru ar gael i helpu i dapio i mewn ac allan.

 

Cyfleusterau Parcio a Theithio

Take That:  Dydd Mawrth 16 Mehefin. Bydd y cyfleuster parcio a theithio ar gyfer y digwyddiad hwn yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn Lecwydd – CF11 8AZ  a gellir ei gyrraedd o gyffordd 33 yr M4, trwy deithio ar hyd yr A4232 tuag at Gaerdydd/Y Barri. Gadewch yr A4232 i ymuno â’r B4267, gan ddilyn yr arwyddion i Stadiwm Dinas Caerdydd.

Y man gollwng fydd Arglawdd Fitzhammon.

Bydd staff yn cyrraedd y maes parcio am 10.00 pan fydd y safle yn agor, gyda’r bws cyntaf yn gadael am 10.30 a’r bws olaf yn gadael (Arglawdd Fitzhammon) am hanner nos.

Metallica: Dydd Sul 28 Mehefin  Bydd y cyfleusterau parcio a theithio ar gyfer y digwyddiad hwn yn y maes parcio ger Arena Vindico (llawr sglefrio) ar Rhodfa Ryngwladol yn y Pentref Chwaraeon, Bae Caerdydd – CF11 0JS.

Bydd y man gollwng yng nghanol y ddinas ar Ffordd Tresilian.

Bydd y maes parcio yn agor am 10am, gyda’r bws cyntaf yn gadael am 10.30am a’r bws olaf yn gadael canol y ddinas am hanner nos.

Y gost ar gyfer y ddau ddigwyddiad yw £15 am bob car, sy’n daladwy ar y diwrnod.

 

Parcio yng Nghanol y Ddinas ar Ddiwrnod Digwyddiad (Ceir a Choetsys)

Cyrraedd yno:  Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4, ewch tua’r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i’r ganolfan ddinesig.

Cost: £20 yn daladwy ar y diwrnod am gar a £30 i goets – mae taliadau cerdyn hefyd ar gael nawr.

Amserau parcio:   Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.

 

Parcio ar Ddiwrnod Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Gerddi Sophia (ceir)

(Taith gerdded o tua 0.5 milltir i Stadiwm Principality, Gât 2).

Parcio ar gyfer Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Cyrraedd yno:  Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.

Cost: £20 i geir a £30 i goetsys – mae taliadau cerdyn ar gael nawr.

Amserau parcio:   Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am 12 hanner nos.

Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7.00pm. Gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog.  Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol.  Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy’n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.

 

Cartref

Bysus lleol:

Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau

Ewch i wefan y cwmni bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.

Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i:  Croeso i Stagecoach (stagecoachbus.com)

Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i: https://www.cardiffbus.com/principality-stadium

Am ragor o wybodaeth am wasanaethau NAT, ewch i: https://www.natgroup.co.uk/

National Express:
 
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.

 

Allwch chi feicio neu gerdded?

Bydd y llwybrau beicio a’r llwybrau beicio dros dro yn yr ardal cau ffyrdd yn dal i fod ar agor i feicwyr eu defnyddio yn ystod y cyngherddau. Fodd bynnag, oherwydd nifer y bobl a ddisgwylir, gofynnwn i bob beiciwr gymryd gofal a thalu sylw.

Mae’r trefniadau cau ffyrdd yn berthnasol i bob cerbyd modur o unrhyw fath, ond nid i feiciau â phedalau.

Gall y rheini sy’n byw yng Nghaerdydd fod eisiau beicio neu gerdded. Mae ymchwil yn dangos bod 52% o’r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km o hyd.  Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio’n hawdd mewn 20 munud.

Gwyddom hefyd yr hoffai 28% o drigolion Caerdydd nad ydyn nhw’n beicio ar hyn o bryd roi cynnig arni.

Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol byth oherwydd byddai teithio ar feic yn gynt nag yn y car yn ystod oriau brig neu ddigwyddiadau mawr.

Parcio i Siopwyr

Mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd:  Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion).

 

Parcio i Bobl Anabl

Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia.  Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol.

Gweler argaeledd ar wefannau unigol.

 

Tacsis

Ar gyfer yr holl gyngherddau, bydd safle tacsis Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser gynt) yn cau am 3pm ac yn ailagor am hanner nos.