Sgwâr Cyhoeddus Newydd i gael ei Adeiladu ar Ffordd y Brenin

Dydd Llun, 8 Mehefin 2026


 

Mae sgwâr cyhoeddus newydd yn cael ei datblygu ar Ffordd y Brenin i greu rhodfa â choed gyda seddi, tirlunio a man agored, fel rhan o gynllun ehangach i wella llwybrau teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus i ymyl ddwyreiniol y ddinas.

Bydd y man cyhoeddus newydd yn rhoi blaenoriaeth i bobl yn hytrach na thraffig trwy gyflwyno croesfannau heb risiau, troedffyrdd llydan a llwybrau beicio newydd i annog cerdded a beicio yn ogystal â gerddi glaw a nodweddion draenio wedi’u hintegreiddio yn y cynllun.

Bydd y cynllun ffordd a’r gofod cyhoeddus newydd yn creu cyswllt di-dor rhwng canol y ddinas a’r ganolfan ddinesig, gan arwain at ofod cyhoeddus sy’n barod ar gyfer marchnadoedd, perfformiadau a digwyddiadau.

Bydd y cynllun trawsnewidiol yn gwella mynediad i gerddwyr, gan gynnwys cael gwared ar isffordd Ffordd y Brenin sy’n arwain at y ganolfan ddinesig, i greu ardal ddiogel, groesawgar gyda chroesfannau ar lefel y stryd i wella gwelededd a diogelwch.

Bydd y sgwâr newydd a’r groesfan i gerddwyr heb risiau yn gwella golygfeydd o dirnodau treftadaeth, gan gynnwys Neuadd y Ddinas a’r Amgueddfa Genedlaethol, ac yn darparu cartrefi newydd ar gyfer cerfluniau hanesyddol, gan gryfhau ymdeimlad o le a balchder dinesig.

Bydd y gwelliannau hefyd yn cyflwyno manteision iechyd ac amgylcheddol, gyda mwy o goed yn cael eu plannu i wella ansawdd aer ymhellach a chefnogi oeri trefol.

Mae’r Cyngor eisoes wedi ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid drwy gydol y broses o ddatblygu’r cynllun, i geisio barn gan bobl ag amrywiaeth eang o safbwyntiau, anghenion a nodweddion. Bydd yr ymgysylltiad cyhoeddus sydd ar ddod ar Ffordd y Brenin hefyd yn cynnwys y Panel Dinasyddion, sy’n darparu mynediad i grŵp amrywiol a chynrychioliadol o drigolion a defnyddwyr. Bwriad ein dull yw sicrhau bod yr ymgysylltu’n gynhwysol ac yn hygyrch, ac y gall pob grŵp roi adborth ar y cynigion.

Y cynllun, a elwir yn Goridor Trafnidiaeth Gynaliadwy Caerdydd i Gasnewydd, fydd y cam cyntaf i ddarparu beicffordd newydd o ganol dinas Caerdydd i Rodfa’r Gypreswydden yn Llaneirwg a ffin y sir. Bydd hyn yn cael ei gefnogi gan fesurau i roi blaenoriaeth i fysus, gwella amseroedd teithio a dibynadwyedd y gwasanaeth. Bydd hefyd yn gwella llwybrau cerdded, olwyno a beicio i helpu i leihau tagfeydd. Mae gwelliannau Ffordd y Brenin yn rhan o’r cam cyntaf hwn.

Gofynnir i Aelodau’r Cabinet gymeradwyo dechrau proses dendro i benodi contractwr ar gyfer Cam 1a y cynllun yn ei gyfarfod ar 18 Mehefin, fel y gall y gwaith ddechrau yn ddiweddarach ar y safle.

Bydd y gwelliannau ehangach i goridor Heol Casnewydd hefyd yn gwella’r cysylltiadau priffyrdd â gorsafoedd trafnidiaeth allweddol, gan gynnwys gorsaf reilffordd Heol y Frenhines, y gyfnewidfa fysus, Ffordd Churchill a gorsafoedd Dwyrain Caerdydd a Parc Caerdydd yn y dyfodol, gan gefnogi twf economaidd drwy wella mynediad at swyddi, addysg a chyfleusterau hamdden.

Bydd y beicffordd newydd, fydd yn disodli’r feicffordd dros dro, yn cysylltu â llwybrau presennol ac wedi’u cynllunio, gan gynnwys Beicffordd 1, sydd ar hyn o bryd yn rhedeg o Stuttgarter Strasse (yng nghanol y ddinas ger Cilgant Eglwys Andreas) i Ysbyty Athrofaol Cymru yn y Mynydd Bychan, yn ogystal â beicffordd Parc y Rhath (Beicffordd 6) a Thaith Rhymni.

Bydd y cynllun cyffredinol yn cael ei gyflwyno mewn chwe cham. Bydd Cam 1a yn rhedeg o ganol y ddinas i gyffordd Llwyn y Gorllewin gyda’r camau yn y dyfodol yn ymestyn y feicffordd tuag at Gasnewydd. Yng nghanol y ddinas, bydd y llwybr hefyd yn cysylltu’n uniongyrchol â beicffordd Rhodfa’r Orsaf/Stryd y Bont, gan ddarparu cysylltiadau ymlaen â Thaith Taf a gorllewin y ddinas.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Dan De’Ath:  “Bydd cam cyntaf y cynllun hwn yn gam pwysig tuag at wella Ffordd y Brenin yn sylweddol a chreu opsiynau trafnidiaeth cynaliadwy o Gaerdydd i ffin dwyreiniol y ddinas. Rhaid i ni adeiladu’r seilwaith sydd ei angen i wneud teithio cynaliadwy yn fwy deniadol, gan gynnwys cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus, i annog pobl i adael eu ceir gartref. Bydd hyn yn cefnogi ffyrdd iachach o fyw ac yn helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

“Mae adborth y cyhoedd eisoes wedi helpu i lunio dyluniad cam cyntaf y cynllun, gydag ymgysylltiad pellach wedi’i gynllunio ar gyfer camau y prosiect yn y dyfodol.”

Yn amodol ar gymeradwyaeth, o dan yr amserlen bresennol, bydd y broses dendro ar gyfer cam 1a yn dechrau yn haf 2026, gyda disgwyl i’r gwaith adeiladu ddechrau yn gynnar yn 2027 a chael ei gwblhau erbyn haf 2028.

Ariennir Cam 1a y cynllun drwy gyfuniad o grantiau gan y Gronfa Drafnidiaeth Ranbarthol, Cronfa Grant Burns a Rhaglen Gyfalaf Caerdydd. Ar hyn o bryd mae gwelliannau i Ffordd y Brenin yn cael eu hariannu drwy gyfrif Cronfa Wrth Gefn Parcio Caerdydd.

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn cyfarfod ar 18 Mehefin i ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad. Bydd gwe-ddarlledia