Blwyddyn i Fynd tan y Grand Départ prydeinig ar gyfer y Tour De France

Thursday, 2 July 2026


 

  • Dyddiad wedi’i nodi wrth i ras 2026 baratoi i adael Barcelona Ddydd Sadwrn
  • Caeredin yn rhoi’r ysgogiad cyhoeddus cyntaf i’r Grand Départ GB, wrth i’r cyhoedd gael eu hannog i gymryd rhan
  • Bydd ysgogiadau eraill yng Nghaerdydd, Manceinion a Llundain yn ystod Tour de France 2026

 

Bydd llygaid y byd seiclo yn troi at Gaeredin ymhen blwyddyn, oherwydd am y tro cyntaf mewn 120 mlynedd o hanes y ras, bydd y Tour de France yn cychwyn o dir yr Alban, gyda chyffro yn adeiladu cyn y digwyddiad chwaraeon am ddim mwyaf yn hanes gwledydd Prydain.

Cynhaliwyd y cyntaf mewn cyfres o ysgogiadiadau cyhoeddus i ddathlu Grand Départ GB hanesyddol 2027 yng Nghaeredin heddiw, wedi’i amseru i gyd-fynd â dechrau’r Tour de France 2026 yn Barcelona y penwythnos hwn.

Mae’r ysgogiad, yng ngorsaf reilffordd Waverley Caeredin, yn nodi union flwyddyn nes i’r Tour de France adael prifddinas yr Alban Ddydd Gwener 2 Gorffennaf 2027 – y tro cyntaf yn hanes y ras y bydd wedi dechrau yn yr Alban – gyda’r Tour de France Femmes avec Zwift yn dilyn o Leeds Ddydd Gwener 30 Gorffennaf 2027.

 

Ymunodd y seiclwr proffesiynol o Gaeredin, Sean Flynn (Team Picnic PostNL), â Stephen Flynn, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Twristiaeth a Thrafnidiaeth o Lywodraeth yr Alban; Y Cynghorydd Stephen Jenkinson, Cynullydd Trafnidiaeth a’r Amgylchedd o Gyngor Dinas Caeredin; a Rob Dickson, Cyfarwyddwr Diwydiant a Digwyddiadau yn VisitScotland, â’i gilydd yng ngorsaf reilffordd Waverley Caeredin, lle gallai’r cyhoedd gymryd rhan mewn hyrwyddiad Grand Départ GB Ddydd Iau (2 Gorffennaf) i nodi’r garreg filltir.

Mae’r ysgogiad yn rhoi cyfle i bobl gael mwy o wybodaeth am gymal agoriadol y flwyddyn nesaf, ac i ddarganfod sut y gallant gymryd rhan, gan ymuno â’r 8,750 o bobl sydd eisoes wedi gwneud cais i chwarae eu rhan yn Grands Départs 2027 trwy fod yn JOY Maker. Bydd gweithgareddau plant hefyd ar gael, wedi’u hwyluso gan aelodau o dîm effaith gymdeithasol JOY.

Gall unrhyw un sy’n ymweld â’r ysgogiad hefyd ddysgu mwy am y Tour de France Femmes avec Zwift a fydd yn cael ei groesawu gan wledydd Prydain am y tro cyntaf yn haf 2027. Fel rhan o’r dathliadau blwyddyn i fynd, mae Zwift yn rhoi cyfle i gefnogwyr brofi’r platfform a phrofi eu beic clyfar Zwift Ride.   I’r rhai nad ydynt yn gallu mynychu’n bersonol, bydd dathliad Zwift o’r ‘Tour Fever’ yn rhedeg rhwng 6 Gorffennaf a 16 Awst, gan gynnwys llawer o’r dringfeydd allweddol o’r ddwy ras yn 2026 a map sydd newydd ei ehangu o Baris.

Bydd ysgogiadau dilynol yn digwydd ar y Sgwâr Canolog y tu allan i orsaf reilffordd Caerdydd Canolog (Dydd Iau 9 Gorffennaf); yng ngorsaf reilffordd Piccadilly Manceinion (Dydd Iau 16 Gorffennaf); ac yng ngorsaf reilffordd King’s Cross Llundain (Dydd Iau 23 Gorffennaf) a byddant ar agor rhwng 07:00 a 19:00*.

 

Wrth wneud sylwadau ar yr ysgogiadau, dwedodd Paul Bush OBE, Rheolwr Gyfarwyddwr, Grand Départ GB: “Mae heddiw yn nodi’r garreg filltir gyffrous ddiweddaraf ar y ffordd i’r Grand Départ GB ac yn dechrau haf o ddathlu’r Tour de France a’r Tour de France Femmes avec Zwift wrth i ni edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf, pan fydd llygaid y byd beicio yn troi at Gaeredin a gwledydd Prydain, wrth i ni groesawu miliynau o gefnogwyr i ochrau’r ffyrdd. Mae ein neges yn syml, dewch draw, dewch i ddysgu mwy a chymryd rhan er mwyn helpu i wneud hon yn foment genedlaethol unwaith mewn cenhedlaeth yn 2027.”

Gall cefnogwyr sy’n mynychu Grand Départ 2026 yn Barcelona hefyd ddarganfod mwy am rasys y flwyddyn nesaf, gyda Croeso Cymru yn cynnal stondin Grand Départ GB yn y parth cefnogwyr yn Passeig Lluís Companys, sydd ar agor tan brynhawn dydd Sul (5 Gorffennaf).

Bydd mwy o fanylion am ysgogiadau haf cyhoeddus pellach yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf, gan roi cyfle i bobl mewn cymunedau ar draws y chwe chymal ddarganfod mwy am y Grands Départs, a sut maen nhw nid yn unig yn rhywbeth i’w gwylio y flwyddyn nesaf, ond yn rhywbeth i gymryd rhan ynddynt nawr.

 

Dwedodd Tracy Power, Rheolwr Gyfarwyddwr Sefydliad Beicio Prydain; “Mae’n wych dechrau ein hysgogiadau cyhoeddus yng Nghaeredin gyda blwyddyn i fynd, ond does dim angen aros tan yr haf nesaf, gall pobl gymryd rhan yn y Grands Départs nawr. Boed hynny drwy gofrestru fel JOY maker, cofrestru ar gyfer ein rhaglen Parodrwydd i Weithio os ydych chi’n berson ifanc, neu fynd i’n gwefan yn letourgb.com/joy a darganfod ein chwe rhaglen a sut y down â llawenydd beicio i chi trwy newid cymdeithasol cadarnhaol.”

 

Ydych chi’n awyddus i fod yn rhan o Grands Départs hanesyddol 2027?  Cofrestrwch fel gwirfoddolwr JOY Maker yn letourgb.com/volunteer

 

Dwedodd Ysgrifennydd Economi a Thwristiaeth Llywodraeth yr Alban, Stephen Flynn: “Mae’r cyffro ynghylch Grand Départ y Tour de France yn dod i’r Alban yn dechrau cynyddu gyda’r cyfrif lawr i Orffennaf 2027 yn dechrau nawr.

 “Rydym yn falch iawn o gael agor ein drysau i un o ddigwyddiadau chwaraeon mwyaf y byd ac i arddangos popeth sydd gan yr Alban i’w gynnig. Gall cael llygaid y byd ar yr Alban ond bod o fudd i’r economi a dod â hwb pellach i’n sector twristiaeth.

“Gobeithio y bydd cymunedau ledled yr Alban yn gallu ymgysylltu â Grand Départ Tour de France 2027 a hyd yn oed cymryd rhan drwy’r rhaglen wirfoddoli ac effaith gymdeithasol, i sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o fanteision y cyfle anhygoel hwn.”

 

Dwedodd Gweinidog Chwaraeon Llywodraeth y DU, Stephanie Peacock: “Mae gwylio dechrau’r Tour de France eleni a gwybod mai ein tro ni fydd hi nesaf yn hynod gyffrous.

“Allwn ni ddim aros i groesawu beicwyr gorau’r byd ar gyfer rasys y dynion a’r merched yr haf nesaf, gan fynd â digwyddiadau mwyaf eiconig y byd beicio i galonnau cymunedau ledled Cymru, Lloegr a’r Alban.

“Gyda’i gilydd, Grands Départs 2027 fydd y digwyddiad chwaraeon mawr mwyaf hygyrch a gynhaliwyd erioed ym Mhrydain a bydd y digwyddiadau Blwyddyn i Fynd yn rhoi cyfle i bobl ledled y wlad ddechrau cymryd rhan nawr.”

 

Dwedodd y Cynghorydd Stephen Jenkinson, Cynullydd Trafnidiaeth a’r Amgylchedd yng Nghyngor Dinas Caeredin: “Gyda dim ond blwyddyn i fynd tan Grand Départ y Tour de France, mae’r cyfrif olaf wedi cychwyn.

“Bydd cynnal un o’r digwyddiadau chwaraeon mwyaf yn y byd yn dod ag ymwelwyr, buddsoddiad a chyffro i’r Brifddinas, gan gefnogi busnes lleol ac arddangos Caeredin ar ei gorau.

“Yr un mor bwysig, gall ysbrydoli mwy o bobl i fynd ar eu beic, cofleidio teithio llesol, a mwynhau’r manteision iechyd a lles sy’n dod o fod yn fwy actif.

“Edrychwn ymlaen at groesawu beicwyr, cefnogwyr ac ymwelwyr o bob cwr o’r byd ar gyfer yr achlysur bythgofiadwy hwn.”

 

Nododd Rob Dickson, Cyfarwyddwr Diwydiant a Digwyddiadau yn Visit Scotland: “Mae’n gyffrous nawr bod y cloc wedi dechrau cyfrif i lawr ar gyfer blwyddyn i fynd nes i’r Alban gynnal Grand Départ mawreddog Tour de France 2027. Mae digwyddiadau o’r raddfa hon yn codi proffil rhyngwladol yr Alban fel cyrchfan beicio o’r radd flaenaf, gan gyflwyno ein cynnig i gynulleidfaoedd newydd ac ysbrydoli ymweliadau yn y dyfodol.

“Mae beicio yn boblogaidd iawn ymhlith nifer o’n prif farchnadoedd Ewropeaidd ac mae’n rhan bwysig o’n huchelgeisiau twristiaeth gynaliadwy cenedlaethol.  Gyda’r Tour de France yn dod i’r Alban am y tro cyntaf, mae’n cynnig cyfle heb ei ail i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o gefnogwyr beicio a beicwyr i ymweld â’n llwybrau beicio o’r radd flaenaf wrth roi hwb i dwristiaeth feicio ledled y wlad.

“Mae twristiaeth a digwyddiadau yn hanfodol i’r economi ymwelwyr, gan helpu i gefnogi busnesau a chymunedau lleol a gwneud yr Alban yn lle gwell i fyw, ymweld, gweithio a chynnal busnes ynddi.”

 

Meddai Simon Morton, Cyfarwyddwr Digwyddiadau, Systemau Chwaraeon a Materion Allanol UK Sport: “Rydym yn hynod gyffrous i groesawu beicwyr gwrywaidd a benywaidd gorau’r byd i’r glannau hyn ymhen deuddeg mis, yn yr hyn y disgwylir iddo fod y digwyddiad chwaraeon rhad ac am ddim mwyaf yn hanes gwledydd Prydain.

“Gyda llwybrau yn mynd trwy gymunedau ym mhob cwr o’r wlad, bydd miliynau o bobl yn gallu profi’r rasys am ddim, boed hynny ar ymyl y ffordd neu drwy ddarllediadau byw llawn ar Channel 5.

“Yr un mor bwysig, gyda’r Tour de France a’r Tour de France Femmes avec Zwift yn dechrau y tu allan i Ffrainc am y tro cyntaf, mae’n hanfodol ein bod ni’n creu gwaddol mewn cymunedau ledled y DU sy’n mynd ymhell y tu hwnt i’r rasio ei hun.

“Gyda dim ond blwyddyn i fynd, bydd amrywiaeth o raglenni yn helpu i gyflawni’r effaith honno, gan gynnwys JOY, rhaglen effaith gymdeithasol Grand Départ, a fydd yn cefnogi cyfleoedd i bobl ifanc, yn dod â chymunedau at ei gilydd, ac yn helpu i sicrhau bod y digwyddiadau hyn yn gadael gwaddol cadarnhaol ymhell ar ôl i’r rasio ddod i ben.”

 

Ychwanegodd Chris King, Rheolwr Gorsaf yn ngorsaf Waverley Caeredin ar gyfer Network Rail: “Rydym yn falch o gynnal y Grand Départ GB cyntaf yma yn Waverley Caeredin. Fel un o ganolfannau trafnidiaeth prysuraf yr Alban, ac yng nghanol prifddinas y genedl, rydym mewn sefyllfa berffaith i helpu’r ddinas i arwain ac adeiladu momentwm tuag at 2027.  Edrychwn ymlaen at groesawu teithwyr ac ymwelwyr i gyffro stori’r Tour de France ar gyfnod mor bwysig.”