Prosiect treftadaeth Ynys Echni yn ennill ddwywaith mewn gwobrau adeiladu cenedlaethol

Dydd Llun, 16 Gorffennaf 2026


 

Mae’r prosiect ‘Ynys Echni: Cerdded Drwy Amser’ wedi ennill dwy wobr yng Ngwobrau Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru 2026.

Enillodd y prosiect, a ariannwyd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ochr yn ochr â buddsoddiad gan berchnogion yr ynys, Cyngor Caerdydd, ac a gyflwynwyd gan Awdurdod Harbwr Caerdydd, Knox & Wells, WSP a CMS Group wobr Prosiect Adeiladu’r Flwyddyn (o dan £5 miliwn) a’r wobr Adfywio a Chadwraeth.

Mae’r prosiect gwerth miliynau o bunnoedd, a dderbyniodd gymorth mewn nwyddau gan sefydliadau partner hefyd gan gynnwys Cymdeithas Ynys Echni ac RSPB Cymru, wedi gweld gorsaf y corn niwl rhestredig Gradd II yn cael ei hadfer, sefydlogi’r ysbyty colera hanesyddol a gwelliannau i systemau dŵr Fictoraidd yr ynys, ochr yn ochr â mentrau i wella cynefinoedd ar gyfer cytref gwylanod cefnddu lleiaf yr ynys, gan ddarparu llwybrau ynys newydd, cynnwys digidol a chelf gyhoeddus wedi’i gynllunio i annog ymwelwyr a dod â bywyd yr ynys i’r tir mawr.

Dywedodd Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Jennifer Burke: “Mae ennill dwy wobr genedlaethol yn gydnabyddiaeth wych o’r gwaith partneriaeth, yr arbenigedd a’r ymroddiad sydd wedi mynd i warchod hanes unigryw Ynys Echni ac agor ei straeon diddorol i gynulleidfaoedd newydd.”

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Knox & Wells, Mike Baynham: “Rydym yn hynod falch o weld y gwaith adfer sydd wedi’i gyflawni ar Ynys Echni yn derbyn y fath ganmoliaeth a chydnabyddiaeth. Ynys Echni yw un o’r prosiectau â’r heriau mwyaf unigryw yr ydym wedi’u cyflawni erioed, gyda lleoliad anghysbell yr ynys yn cyflwyno heriau logistaidd ymhell y tu hwnt i unrhyw safle adeiladu cyffredin. Ni fyddai’r prosiect wedi bod yn bosibl heb ymdrech gydweithredol ac angerdd y tîm cyfan, sydd wedi ymfalchïo yn aruthrol mewn bod yn rhan o’r bennod ddiweddaraf hon o hanes yr ynys.”

Dywedodd Rheolwr Prosiect Ynys Echni, Cyfarwyddwr Technegol WSP UK ac Iwerddon, Richard Wilks: “Roedd adfer y ddau adeilad eiconig hyn ar Ynys Echni yn gofyn am waith tîm cryf a chynllunio manwl. Rydym yn falch o fod wedi cefnogi Cyngor Caerdydd i adfywio’r darnau annatod hyn o stori’r ynys, fel y gall pobl barhau i brofi ei hanes diddorol ac unigryw.”

Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol: “Mae Ynys Echni yn lle unigryw gyda hanes rhyfeddol ac mae’r gwobrau hyn yn dyst i’r weledigaeth a’r ymroddiad y tu ôl i’r prosiect. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae’r prosiect hwn wedi gwarchod treftadaeth bwysig, gwella amgylchedd naturiol yr ynys a chreu cyfleoedd newydd i bobl brofi a chysylltu â’i straeon, ar yr ynys ac oddi arni. Mae’n wych gweld y gwaith hwn yn cael ei gydnabod ar lefel genedlaethol.”

Wedi’i lleoli tua phum milltir oddi ar arfordir Caerdydd ym Môr Hafren, Ynys Echni yw pwynt mwyaf deheuol Cymru ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig dynodedig a gwarchodfa natur leol gyda bywyd gwyllt o bwys rhyngwladol.

Er gwaethaf ei maint bach, mae’r ynys wedi chwarae rhan ryfeddol mewn hanes. Hi oedd safle’r signal diwifr llwyddiannus cyntaf a anfonwyd ar draws dŵr agored ym 1897, roedd yn gartref i ysbyty ynysu colera Fictoraidd ac roedd yn rhan o amddiffynfeydd arfordirol y DU yn ystod oes Fictoria a’r Ail Ryfel Byd.

Heddiw, mae’n gartref i gytref adar môr pwysig, planhigion ac anifeiliaid prin, yn ogystal â nodweddion hanesyddol gan gynnwys ei goleudy eiconig, a adeiladwyd gyntaf ym 1737 i arwain llongau trwy’r Môr Hafren prysur.