Mae 'UTSAV' Samarpan yn dychwelyd ar gyfer dathliad eclectig arall o Gelfyddydau De Asia

Dyddiad(au)

13 Med 2026

Lleoliad

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Heol y Gogledd, Caerdydd CF10 3ER

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Yn dilyn llwyddiant ysgubol ‘Double Bill’ Samarpan yng Nghaerdydd ym mis Mai, mae’r trefnwyr wrth eu bodd yn cyhoeddi bod UTSAV yn dychwelyd ar gyfer 2026, gyda gŵyl fawr a phwysig arall gyda dawnswyr ifanc addawol o draddodiad De Asia.

Gan baratoi’r ffordd ar gyfer Celfyddydau De Asia yng Nghymru, bydd UTSAV, Gŵyl Ryngwladol Celfyddydau Perfformio Indiaidd yng Nghymru, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru – yn gyfnewidfa ddiwylliannol fywiog arall, yn dathlu dyfnder, harddwch ac amrywiaeth Dawns Glasurol o Dde Asia.

Yn cael ei chynnal yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar 13 Medi 2026, bydd yr ŵyl yn croesawu’r diva Bharatanatyam byd-enwog o India, Priyadarsini Govind. Yn adnabyddus fel un o ddawnswyr Clasurol Indiaidd mwyaf blaenllaw’r byd, mae Priyadarsini yn asio’r traddodiad a’r arloesedd yn berffaith, gan ailddiffinio ffiniau Bharatanatyam yn barhaus trwy ei gwaith fel perfformiwr ac addysgwr.

Yn yr ŵyl am y tro cyntaf yn 2026, bydd cantores Carnatic o Chennai, Chaitrra Sairam, hefyd yn perfformio cerddoriaeth glasurol Indiaidd.  Gyda gyrfa ddisglair fel perfformwraig unigol sydd wedi ennill nifer o wobrau gan gynnwys Gwobr fawreddog Yuva Kala Bharathi, mae Chaitrra hefyd yn parhau â’i hetifeddiaeth gerddorol fel addysgwr, yn  canolbwyntio ar therapi cerddorol ac yn gweithio gyda grwpiau amrywiol gan gynnwys plant ag anghenion addysgol arbennig.

Yn deillio o’r gair Sansgrit am “dathliad”, crëwyd UTSAV gan Samarpan mewn ymateb i ddiffyg rhaglenni celf Indiaidd glasurol cyson o ansawdd dda yn y rhanbarth. Gyda de Cymru – a Chaerdydd yn enwedig – yn un o gymunedau De Asiaidd hynaf y DU, nod Samarpan yw cadw hanfodion celf Indiaidd glasurol a chyflwyno eu hapêl fyd-eang i gynulleidfaoedd cyfoes. Mae UTSAV felly yn fynegiant artistig a diwylliannol hygyrch i gymunedau amrywiol yn ne Cymru.

Gan adeiladu ar enw da’r ŵyl fel digwyddiad cariadus, meddylgar o safon uchel, mae UTSAV yn parhau i gynnig llwyfan ar gyfer cyfnewid artistig, gan ddarparu profiad diwylliannol cyfoethogi i gynulleidfaoedd newydd yn ne Cymru.