Ffilmiau yn yr Amgueddfa

Dyddiad(au)

31 Hyd 2026 - 27 Chwe 2027

Lleoliad

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NP

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Mae Amgueddfa Cymru yn eich gwahodd i gyfres unigryw ac ymgolli o ffilmiau o oes aur y sinema!

Dewch i gael profiad sinema clasurol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lle mae Darlithfa hanesyddol Reardon Smith yn cael ei thrawsnewid yn lleoliad hen ffilm ar gyfer noson unigryw.

Yn fwy na dangosiad ffilm yn unig, mae Ffilmiau yn yr Amgueddfa yn cyfuno sinema eiconig â pherfformiad byw, awyrgylch a hiraeth. Ar ôl cyrraedd, cewch eich croesawu gan dywyswragedd Kitsch & Sync Collective a’ch tywys i noson o ffilmiau clasurol, adloniant ac adrodd straeon bythol.

Dros Galan Gaeaf, mae selogion y sinema’n gallu mwynhau dwy o ffilmiau iasoer mwyaf dylanwadol Alfred Hitchcock wedi’u dwyn ynghyd, sef The Birds a Psycho, gyda’r clasur ‘Miracle on 34th Street’ yn cael ei dangos ar gyfer tymor yr ŵyl, cyn chwibanu i hud cerddorol ‘Singin’ in the Rain’ i roi croeso disglair i ddechrau 2027.

Felly, beth gallwch chi ei ddisgwyl?
Cael eich tywys i’n sinema gan Kitsch & Sync Collective, y bydd perfformiad gwych ei dywyswragedd yn eich diddanu cyn y sioe wrth iddyn nhw eich hebrwng i lawr yr eiliau!
Cynnig sinema o’r amser a fu gyda detholiad o ffilmiau byrion
Bodloni eich dant melys gyda phopcorn, losin a diodydd o’n bar dros dro.
Theatr wedi’i thrawsnewid: o gerddoriaeth sy’n diffinio’r cyfnod i ddelweddau o’r amgueddfa ar ei hanterth hanesyddol.
P’un a ydych chi’n chwilio am brofiad sinema, noson mas hiraethus gyda ffrindiau, neu rywbeth ychydig yn wahanol yr hydref a’r gaeaf hwn, mae’r gyfres hon yn cynnig ffordd unigryw o fwynhau ffilmiau bythol ar y sgrin fawr. Byddwn yn dangos:

31 Hydref 2026 | The Birds a Psycho (15)
13 Rhagfyr 2026 | Miracle on 34th Street (U)
27 Chwefror 2027 | Singin’ in the Rain (U)