Beth wyt ti'n edrych am?
Disgo Distaw
Dyddiad(au)
10 Hyd 2026
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Bydd disgo distaw MWYAF Caerdydd yn ôl ddydd Sadwrn 10 Hydref gyda’n digwyddiadau sy’n addas i deuluoedd a rhai i oedolion yn unig!
Dawnsiwch a chanwch y noson o dan gromen eiconig cyntedd yr amgueddfa wrth i’n DJs preswyl frwydro am eich teyrngarwch telynegol!
Gyda 3 sianel o gerddoriaeth o sawl genre i ddewis ohonynt, bydd rhywbeth at ddant pawb, felly dyma’ch cyfle i ddangos eich symudiadau yn un o adeiladau mwyaf mawreddog y ddinas!
DIGWYDDIAD SY’N ADDAS I DEULUOEDD (6 pm – 8 pm)
Mae croeso i bob oedran, ond mae’r clustffonau wedi’u dylunio ar gyfer y rhai 5+ oed
Rhaid i rai dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn bob amser.
DIGWYDDIAD I OEDOLION YN UNIG (9 pm – 12 am)
Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer y rhai 18+ oed yn unig