SHANIA TWAIN YN CYHOEDDI SIOEAU HAF MAWR I’R DU AC IWERDDON AR GYFER MEHEFIN 2027

Dydd Mawrth, 3 Tachwedd 2026


 

Mae’r eicon byd-eang sydd wedi ennill Gwobr GRAMMY bum gwaith, Shania Twain, wedi cyhoeddi cyfres fawr o sioeau awyr agored ledled y DU ac Iwerddon ar gyfer Mehefin 2027, gan gynnwys dyddiad ym mhrifddinas Cymru.

Bydd y gyfres o wyth dyddiad yn gweld y berfformwraig a’r cyfansoddwr caneuon adnabyddus yn anelu am Gaeau’r Gored Ddu yng Nghaerdydd Ddydd Mawrth 22 Mehefin.

Gall cefnogwyr gofrestru ar gyfer tocynnau rhag-blaen am 9am Ddydd Iau drwy blackweirlive.com/shania gyda thocynnau yn mynd ar werth i bawb arall am 9am Ddydd Gwener drwy blackweirlive.com a ticketmaster.co.uk 

Mae’r cyhoeddiad yn dilyn rhyddhau Little Miss Twain – The Places I’ll Go, y rhifyn cain o seithfed albwm stiwdio clodwiw Shania, Little Miss Twain. Wedi’i ryddhau fis Gorffennaf eleni, roedd Little Miss Twain yn nodi pennod arwyddocaol a phersonol iawn i Shania. Ar ôl mwy na thri degawd fel un o’r artistiaid mwyaf llwyddiannus a dylanwadol yn y byd cerddoriaeth, trodd y seren fyd-eang yn ôl i’r dechrau, gan ailymweld â’r profiadau, y synau a’r atgofion a’i siapiodd cyn i’r byd ddod i wybod ei henw.

Gan dynnu ar ei phlentyndod a’i harddegau yn tyfu i fyny yng Nghanada, mae’r albwm clodwiw yn olrhain gwreiddiau ei sain unigryw ar draws canu gwlad, pop, roc, soul a bluegrass, gan gynnig portread dadlennol o’r dylanwadau y tu ôl i artist a fyddai’n mynd yn ei blaen i ail-osod ffiniau cerddoriaeth gwlad a phop. Mae’r albwm hefyd yn cynnwys rhestr eithriadol o artistiaid fu’n cydweithio gyda hi gan gynnwys Tanya Tucker, T Bone Burnett, Ronnie Wood, Josh Homme, Ray Parker Jr., a David Paich o Toto. Gyda Little Miss Twain – The Places I’ll Go, mae Shania yn ehangu’r stori honno, gan gynnig golwg ddyfnach fyth ar y profiadau a’r dylanwadau cerddorol ffurfiannol y tu ôl i’r artist a’r eicon.

Hefyd yn ddiweddar rhyddhawyd fersiwn llyfr llafar o hunangofiant Shania o 2011, From This Moment On, sydd bellach ar gael gyda’r hanes yn cael ei adrodd gan Shania ei hun. Mae’r llyfr poblogaidd yn olrhain ei thaith gythryblus i enwogrwydd ac yn cynnwys rhagair newydd gyda myfyrdodau personol am ei thaith.

Mae dylanwad Shania yn parhau i fod mor bellgyrhaeddol ag erioed.  Yn 2027, bydd hi’n dathlu 30 mlynedd ers Come On Over a phen-blwydd Up! yn 25, dau albwm sy’n diffinio cyfnod a drawsnewidiodd gerddoriaeth gwlad a phop, a chwalodd rwystrau ledled y byd a chadarnhau ei statws fel eicon byd-eang.  Gyda chyfres enfawr o ddyddiadau byw yn 2027, a biopic sy’n croniclo ei bywyd a’i gyrfa hefyd yn cael ei ddatblygu, mae Shania yn parhau i edrych ymlaen wrth ddathlu’r gerddoriaeth a’r cerrig milltir sydd wedi diffinio ei gyrfa ryfeddol.

Mae dyddiad Shania yng Nghaerdydd yn parhau â rhediad cryf o sioeau awyr agored mawr yn y Gored Ddu sydd wedi gweld perfformiadau gan The Cure, Lewis Capaldi, Pitbull, Teddy Swims, Stevie Wonder, Alanis Morissette, Noah Kahan a Slayer ers eu sefydlu yn 2025.

Datgelwyd eisoes y bydd yr artist aml-blatinwm o’r Unol Daleithiau Alex Warren a’r rocwyr Gwyddelig Fontaines DC hefyd yn perfformio yn y Gored Ddu yr haf nesaf.

Mae’r digwyddiadau enfawr yng nghanol prifddinas Cymru yn cael eu cyflwyno mewn partneriaeth rhwng DEPOT Live (cangen digwyddiadau byw lleoliad cerddoriaeth  DEPOT yng Nghaerdydd) a’r hyrwyddwyr o’r DU, Cuffe and Taylor.

Dwedodd Nick Saunders, sylfaenydd DEPOT Live: “Shania Twain yw’r gwir ymgorfforiad o eicon byd-eang. Mae ei llwyddiant a’i dylanwad ar fyd cerddoriaeth gwlad a thu hwnt yn anfesuradwy. 

“Rydyn ni wedi cyffroi yn lân i gael ei chroesawu i’r Gored Ddu yr haf nesaf. Bydd hon yn noson enfawr i Gaerdydd a Chymru, ac un a fydd yn aros yn hir yn y cof.  Mae’n bryd hel y llwch oddi ar eich esgidiau cowboi oherwydd fyddwch chi ddim am golli’r parti hwn!