Neidio i'r prif gynnwys

Mae Caerdydd yn lleoliad arbennig i blant ac oedolion fel ei gilydd.

Os ydych chi’n chwilio am rywbeth i’r rhai bach, neu blant ifanc a’r rhai yn eu harddegau, mae ein prifddinas yn ddelfrydol i greu atgofion hanner tymor cyffrous!

Edrychwch ar ein detholiad o’r awgrymiadau gorau isod.

LLAWN HWYL AC AM DDIM

SYMFFONI GOLEUNI NATUR: PROFIAD GOLAU RHYNGWEITHIOL AM DDIM

AM DDIM / Cwr y Gamlas, Ffordd Churchill

 

Ymgollwch mewn heddwch a hudoliaeth profiad goleuadau hudol a fydd yn mynd â chi o brysurdeb y ddinas i le tawel a braf.  Bydd goleuadau LED a synau cefn gwlad Cymru yn dod yn fyw wrth gyffwrdd, neidio, neu ddawnsio ar badiau llawr rhyngweithiol hygyrch dan y canopi ar hyd Chwarter Camlas ar ei newydd wedd, oddi ar Heol y Frenhines.

SESIYNAU GALW HEIBIO TEULU ARTES MUNDI

AM DDIM / Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd / 14, 15 Chwefror

 

Mae’r Amgueddfa Genedlaethol yn gwahodd teuluoedd i ddathlu gwaith Rushdi Anwar, Alia Farid a Mounira Al Solh drwy greu eich gweithiau celf eich hun.  Wedi’i gynllunio ar gyfer plant 5-10 oed (ond mae croeso i bawb) mae’r gweithdy hwn yn annog plant i ddysgu am gerflunwaith, tecstilau a thechnegau arlunio.  Rhaid i blant o dan 16 oed ddod yng nghwmni rhieni neu warcheidwaid bob amser.  Dewiswch ddillad nad oes ots gennych eu maeddu. Dim angen cadw lle – galwch heibio i’r amgueddfa.

MAE’R SYRCAS YN Y DREF

AM DDIM / Cei’r Fôr-Forwyn / Dydd Sadwrn 10 Chwefror a Dydd Sadwrn 17 Chwefror

 

Bydd perfformiadau acrobatig yn llond y lle yng Nglan y Dŵr Bae Caerdydd.   Bydd ymwelwyr yn gallu mwynhau gwisgoedd ysblennydd a sgiliau syfrdanol, a hwythau hefyd yn cael cyfle i roi cynnig ar y gweithgareddau yn y gweithdai i deuluoedd.  Beth am weld beth arall sydd ar gael yn y Cei? Dyma’r lle perffaith i gael tamaid, cinio, neu ymlacio gyda diod mewn un o 30 a mwy o fwytai, bars a chaffis.

GWEITHGAREDDAU SY’N ADDAS I DEULUOEDD

Cofiwch brynu tocyn o flaen llaw.

NEIDIWCH YN DDI-RWYSTR

£12 y pen / Parc Trampolinio Buzz, Llanisien / 6+ oed

 

BUZZ Open Jump yw’r sesiwn graidd sy’n rhoi mynediad i chi at gyfleusterau’r parc cyfan am awr o hwyl iachus ac egnïol.  Mae’r cwrs teganau aer mawr yn llawn gweithgareddau a heriau llawn hwyl.

O sleid 6m i gwrs rhwystrau 50m a llawer mwy. Bydd hyd a lled y lle hwn yn eich llorio. Nid parc trampolinio yn unig yw Buzz bellach – maen nhw’n cynnig llawer, llawer mwy!

PEIDIWCH Â GWNEUD HYN GARTREF

£2 pp / Techniquest, Bae Caerdydd / Diwrnodau ac amseroedd amrywiol

 

Ydych chi erioed wedi meddwl am droi hwfer yn bazooka, neu dostiwr yn falŵn aer poeth?  Gobeithio ddim, ond os hoffech chi weld sut gellid gwneud hynny, ewch i sioe Techniquest   Peidiwch â Gwneud hyn gartref. Darganfyddwch pam na ddylech chi roi metel mewn microdon a’r hyn na ddylech chi byth ei roi yn eich toiled.  Mae’r sioe hon yn llawn arddangosiadau gwyddoniaeth gwefreiddiol gan ddefnyddio offer cartref syml, i beidio byth gwneud gartref!

 

GOLFF ANTUR

Prisiau amrywiol / Treetop Golf, Dewi Sant Sant / Ar agor o 10am yn ystod hanner tymor

Gyda dau gwrs golff bach 18 twll dan – mae digon i ddifyrru’ch fforwyr bach. Ewch i’r afael â’r Llwybr Trofannol gyda’ch gilydd i grwydro ein Coed Dirgel neu mentrwch i adfeilion yr Archwiliwr Hynafol. Pa lwybr bynnag yr ydych chi’n ei ddewis, peidiwch ag anghofio ymgymryd â’r 19eg twll Bonws am gyfle i ennill rownd am ddim. Gallwch hefyd dynnu llun yn y bwth lluniau am ddim i fynd ag atgof annwyl o’ch ymweliad adref. Dewiswch pizza wedi’i wneud â llaw o Pizza Cabana, diodydd trofannol o The Thirsty Toucan a choffi wedi’i baratoi’n ffres o Gaffi Jungle Buzz.

GWEFR A CHYFFRO

Sesiynau caiac a chanŵ i’r teulu / Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, Pentref Chwaraeon Rhyngwladol / £10yp

 

Eisiau rhoi cynnig ar weithgaredd newydd y ganolfan dŵr gwyn? Mae ein Sesiynau Blasu 90 munud yn wych i rieni a phlant ddysgu gyda’i gilydd, ac mae’r pwll dŵr gwastad yn lle hwyliog a diogel i ddysgu hanfodion Canŵio a Chaiacio.

Teithiau Stadiwm Principality

TAITH STADIWM Y PRINCIPALITY

Canol y Ddinas / Defnyddiwch y Cod – VISITCARDIFF – i gael gostyngiad o 20%

Mae modd cau ac agor to’r Stadiwm pen-i-gamp, sy’n ei roi ymhlith arenas dan do gorau’r byd.  Bydd tywysydd profiadol yn rhannu ffeithiau am hanes y stadiwm gan gynnwys Gemau Rygbi Rhyngwladol, Digwyddiadau Olympaidd 2012, Bocsio o’r safon uchaf, Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA 2017 ac ymweliadau gan gewri’r byd roc a rol. Mae’r teithiau’n cynnwys Ystafelloedd Gwisgo’r Tîm Cartref a’r Ymwelwyr, Ystafell Cynadleddau’r Wasg, Twnnel y Chwaraewyr a’r Blwch Lletygarwch – felly digon o gyfleoedd i dynnu lluniau ar hyd y ffordd.

 

TAITH DYWYS MEWN STIWDIO DELEDU

£13 / BBC Cymru Wales, Y Sgwâr Canolog

 

Ydych chi’n chwilio am rywbeth gwahanol ar gyfer y plant yn ystod yr hanner tymor? Camwch i ddyfodol darlledu yn stiwdios mwyaf newydd a mwyaf datblygedig y BBC yn y Sgwâr Canolog, Caerdydd.  Ymunwch â staff tywys cyfeillgar ar daith unigryw y tu ôl i lenni stiwdios teledu a radio gyda thechnoleg arloesol gan gynnwys realiti estynedig, realiti rhithwir a chamerâu robotig.

 

CYMRU JWRASIG

Cynnig Arbennig – pob tocyn £7 yn unig / Castell Ffwl-y-mwn, Bro Morgannwg

 

Cychwyn ar antur gyfareddol yng Nghastell Ffwl-y-mwn! Ymdrochwch yn y llwybr stori newydd hwnnw sy’n aros, gan addo taith hyfryd i ymwelwyr o bob oed.  I’r rhai sy’n chwilio am elfen ychwanegol o hwyl, cymerwch ran yn y Llwybr Stamp wrth i chi lywio trwy diroedd y castell. Casglu stampiau ar wahanol bwyntiau o ddiddordeb a gwnewch yn siŵr nad ydych yn anghofio’r Llwybr Deinosor cyffrous.

DANTEITHION BLASUS

BIG MOOSE COFFEE CO

Heol Frederic, Canol y Ddinas

 

Os ydych chi’n chwilio am le gwych i gael coffi neu ginio dros wyliau’r hanner tymor, ewch i Big Moose Coffee Co, siop goffi nid er elw yng nghanol Caerdydd lle byddwch yn cael eich cyfarch gan y tîm mwyaf cyfeillgar o bobl. Galwch heibio i weld y tîm am frecwast, brecinio neu ginio. Maent yn gwasanaethu ystod eang o brydau blasus, a gellir gwneud pob un ohonynt yn ddi-glwten a/neu’n figanaidd. Neu os ydych chi ond yn galw heibio am goffi,  yna mae’n bosib y bydd un o’n teisennau neu’r brownis ffres yn apelio atoch (mae hefyd opsiynau figanaidd a di-glwten ar gael).

CHANCE & COUNTERS

Y Stryd Fawr, Canol y Ddinas

 

Ewch i’r Prif Caffi Gêm Bwrdd hwn sydd â chasgliad o fwy na 650 o gemau i’w mwynhau ochr yn ochr â’n dewis o fwyd a diodydd o safon. Mae’r tîm cyfeillgar wrth law i argymell ac addysgu ein gemau, tra’n gweini bwyd i bob deiet ochr yn ochr â chymysgedd o ysgytlaethau moethus.

LLYS BWYD DEWI SANT

Yr Ais

 

Os ydych chi eisiau byrgyr gyda llwyth o topins neu salad feganaidd, tamaid i aros pryd neu bryd o fwyd i’w gofio, cewch chi’r cyfan yng Nghanolfan Dewi Sant.  Prynu a mynd neu aros a mwynhau, dim ots! Mae’n llawn bwytai at bob dant, o TGI Fridays sy’n cynnig gwledd i’r teulu, i Nando’s. Mae ardal Yr Ais hefyd yn llawn lleoliadau blasus, gan gynnwys Wahaca, The Ivy, Gaucho, Giggling Squid, Cosy Club ac Ivy Asia.

AROS AM GYFNOD

WALES COTTAGE HOLIDAYS

Mae Wales Cottage Holidays yn cynnig dewis gwych o fythynnod gwyliau o ansawdd yng Nghaerdydd a Chymru. Porwch drwy amrywiaeth o fythynnod gwyliau addas i’r teulu a dewch o hyd i’ch dihangfa hanner tymor berffaith ar gyfer mis Chwefror yng Nghymru.

FUTURE INN

Bae Caerdydd

Rhywle i ymlacio a theimlo’n gartrefol. Mae’r Ystafelloedd Dau Wely yn fawr ac yn helaeth, gyda dau wely maint Brenhines, sy’n ddelfrydol ar gyfer teuluoedd o hyd at bedwar gwestai.

Mae manteision yn cynnwys parcio am ddim ac offer gwefru ceir trydan, Wi-Fi am ddim, a gwasanaethau’r cartref megis ein hystafell golchi dillad gwesteion, bwcedi iâ a’n peiriant iâ, y gallwch chi eu defnyddio fel y mynnwch. Archebwch yn uniongyrchol i fod yn sicr o gael y cyfraddau gorau, gyda phrisiau ystafelloedd yn dechrau o £67 y nos. Hefyd, bydd plant dan 12 yn aros am ddim.

PONTCANNA INN

Heol y Gadeirlan 

11 o ystafelloedd moethus ar gyrion y ddinas i chi a’r teulu fwynhau popeth sydd ar gael yn y ddinas a gorffwys heb fod yn y canol.

Taith fer i ganol y ddinas a Chastell Caerdydd gerllaw, gyda digon o barciau i’w mwynhau, neu gallech ddal cwch i’r bae am y diwrnod!  Yn ystod eich arhosiad, mwynhewch y bar a’r bwyty gyda’r ardal allanol, a dal cyffro’r Chwe Gwlad tra byddwch chi yma!

GWESTY’R CLAYTON

Heol Eglwys Fair

Mae ystafelloedd teulu eang y gwesty hwn yn cynnwys un gwely dwbl ac un gwely, gyda gwelyau ychwanegol neu gotiau babanod ar gael os oes angen.  Mae ystafelloedd cyfagos hefyd ar gael, sy’n ddelfrydol ar gyfer teuluoedd â phlant hŷn, gan gynnig heddwch a phreifatrwydd ychwanegol.  Caniatáu i bawb fwynhau’r gwyliau a chael digon o le i bawb

THE SPIRES SERVICED APARTMENTS

Heol y Gadeirlan, Pontcanna

Arhoswch mewn amgylchedd hunangynhwysol sy’n arbennig o addas ar gyfer teuluoedd a theithwyr sy’n aros yn y ddinas am gyfnod hirach.  Mae pob fflat yn cynnig cegin, lolfa, ystafell wely ac ystafell ymolchi â’r cyfarpar llawn, gyda’r fflatiau 2 ystafell wely yn cynnwys 2 ystafell ymolchi.   Mae teuluoedd â phlant ifanc yn arbennig yn cael eu cyfyngu’n llai nag wrth aros mewn gwestai a gallant elwa o fwy o le nag mewn ystafell wely mewn gwesty, a’r cyfle i goginio neu efallai fwynhau cludfwyd wedi’i ddanfon yn syth i’w drws.

SYMUD O LE I LE

PROFI CAERDYDD MEWN CWCH

Mae teithiau cwch Caerdydd ‘Princess Katharine’ yn dacsi dŵr 90 sedd. Camwch ymlaen ym Mae Caerdydd neu ym Mharc Bute (yn agos at Gastell Caerdydd) i fynd ar daith hanner awr un ffordd. Yna ar ôl bod ar dir sych, ewch yn ôl ymlaen i fynd yn ôl. Opsiwn arall yw aros ar y cwch am y daith gylch awr o hyd.  Mae sylwebaeth ddiddorol yn adrodd hanes yr ardal a’r golygfeydd ar hyd y ffordd.

Mae toiled ar gael i deithwyr. Mae’n ffordd wych o weld y ddinas o safbwynt gwahanol.

TRENAU TRAFNIDIAETH CYMRU

Mae plant yn mynd am ddim ar drenau Trafnidiaeth Cymru pan fyddant yng nghwmni oedolyn sy’n talu am docyn.

 

Pethau pwysig i’w nodi cyn teithio;

  • Dim ond yn y dosbarth Safonol y gall plant deithio am ddim
  • Gall hyd at ddau blentyn deithio am ddim, i bob oedolyn sy’n talu. Rhaid i oedolion gael tocyn ar gyfer pob plentyn sy’n teithio. Dim ond o swyddfa docynnau neu ar y trên gan archwiliwr y mae tocynnau teithio am ddim i blant ar gael
  • Mae plant dan 5 oed yn teithio am ddim ar holl wasanaethau National Rail

Dim ond ar drenau Trafnidiaeth Cymru y gall plant 5-16 oed deithio am ddim

MYND AR Y BWS

Mae digon o bethau i’w gwneud yng Nghaerdydd a’r cyffiniau yr hanner tymor hwn a does dim ffordd well o’u cyrraedd na gyda Bws Caerdydd!

Trwy brynu un o’u tocynnau diwrnod teuluol, gallwch chi a’ch teulu deithio’n gyflym ac yn gost-effeithiol ar rwydwaith cynhwysfawr Bws Caerdydd.  Gall teuluoedd o hyd at 5 deithio o amgylch Caerdydd a Phenarth drwy’r dydd am £9, neu ar y rhwydwaith ehangach am £19. Mae telerau ac amodau’n berthnasol.

TEITHIO TRÊN

Gyda Thocyn Trên i’r Teulu, gall hyd at ddau oedolyn a phedwar o blant deithio gyda’i gilydd ac arbed costau ar deithiau Caerdydd. Gall unrhyw oedolion ddefnyddio’r Tocyn Teulu, o neiniau a theidiau a rhieni bedydd i rieni a ffrindiau – mewn gwirionedd, unrhyw un sy’n teithio gyda hyd at bedwar o blant.  Ewch â’r plant i Gastell Caerdydd am ddiwrnod bythgofiadwy sy’n datgelu 2,000 o flynyddoedd o hanes, ewch ar yr Olwyn Gawr 33 metr, neu ewch i Fae Caerdydd i gael profiad wyddonol rhyngweithiol yn Techniquest, neu brynhawn llawn cyffro o chwaraeon dŵr cyffrous.

 

Mae teithio nawr hyd yn oed yn well gwerth am arian! Llwybrau dethol. Mae telerau’n berthnasol.

_____________________________________________

I gael gwybodaeth am deithio i Gaerdydd, a sut i fynd o gwmpas y Ddinas unwaith rydych chi yma, edrychwch ar ein hadran Gwybodaeth i Ymwelwyr.