Beth wyt ti'n edrych am?
ENILLWCH DOCYNNAU I SPEEDWAY A LLETY DROS NOS YNG NGHAERDYDD!
Mae Croeso Caerdydd wedi ymuno â Speedway a Gwesty Clayton i gynnig hwyl gyflym a gwefreiddiol yn nigwyddiad chwaraeon modur dan do mwyaf Prydain ym mis Medi eleni.
BETH GALLECH CHI EI ENNILL?

GWELY A BRECWAST YNG NGWESTY CLAYTON
Gwesty Clayton yw gwesty 4* mwyaf a diweddaraf Caerdydd, ac mae yng nghanol y ddinas. Dim ond tafliad cerrig o Orsaf Ganolog Caerdydd yw’r gwesty a dim ond ychydig funudau o gerdded o Stadiwm Principality felly byddwch chi yng nghanol y cyffro! Mae cyfleusterau eraill yn cynnwys Wi-Fi am ddim ym mhob rhan o’r gwesty, ystafell ffitrwydd fewnol a theras awyr agored.
Bydd cyfle i chi fanteisio ar fynediad cynnar i’ch ystafell a brecwast blasus yn y bore hefyd.
TELERAU AC AMODAU
Croeso Caerdydd
- Rhaid hawlio’r gwobrau ar 2 a 3 Medi ac ni ellir eu cyfnewid na’u throsglwyddo, ac ni ellir eu newid am arian parod neu wobrau eraill.
- Bydd y gystadleuaeth yn cau am hanner nos 29 Awst a chaiff yr enillydd ei gyhoeddi trwy gyfryngau cymdeithasol Croeso Caerdydd.
- Cymerir yn ganiataol fod ymgeiswyr ar gyfer y gystadleuaeth wedi derbyn y telerau ac amodau hyn.
- Mae Croeso Caerdydd yn cadw’r hawl i newid y wobr i wobr o’r un gwerth neu werth mwy ar unrhyw adeg.
- Nid yw’r wobr yn cynnwys costau teithio.
Speedway
- Ni allwch gyfnewid y wobr am arian.
Gwesty Clayton
- Arhosiad 1 noson gan gynnwys brecwast i 2 berson yng Ngwesty Clayton.
- Mae brecwast ynghlwm.
- Mae cyfle cael mynediad cynnar i’r ystafell ynghlwm.
- Ystyrir y bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn y raffl wedi derbyn y telerau ac amodau hyn.