Neidio i'r prif gynnwys

MAE CAERDYDD YN FALCH O GROESAWU EPCR 2025

Mae prifddinas Cymru wedi gweithio’n galed i adeiladu enw da fel un o’r dinasoedd gorau yn y byd i brofi rygbi, gyda Stadiwm y Principality eiconig, cartref Undeb Rygbi Cymru, yn rhan o guriad calon canol ein dinas glyd ac atmosfferig. Wedi’i hethol yn Brifddinas Chwaraeon Ewrop yn 2014, mae Caerdydd yn cael ei hadnabod fel man lle mae pob math o gefnogwr chwaraeon yn dod at ei gilydd ar gyfer campau o’r radd flaenaf, gyda Chwpan Rygbi’r Byd 2015, Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA 2017, Ras Fôr Volvo 2018, Cwpan Criced y Byd ICC 2019 a ‘Clash at the Castle’ WWE 2022 ond llond llaw o’r digwyddiadau rydyn ni wedi’u croesawu yn ystod y deng mlynedd diwethaf.

RHESTR Y GORNESTAU


 

ROWND DERFYNOL CWPAN HER EPCR

Mae’r gystadleuaeth ail haen yn cynnwys 16 tîm o Rygbi Uwch Gynghrair Lloegr, 14 uchaf Ffrainc a’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig nad ydynt wedi llwyddo cyrraedd Investec, ynghyd â Cheetahs De Affrica a Black Lions Georgia.

ROWND DERFYNOL CWPAN PENCAMPWYR INVESTEC

Rownd derfynol prif bencampwriaeth rygbi’r undeb Ewropeaidd, mae’r twrnamaint hwn yn adna-byddus am ei gemau angerddol iawn ac mae’n cynnwys rhai o enwau mwyaf rygbi’r byd. Mae’r 24 tîm sy’n cyrraedd y gystadleuaeth haen uchaf fel arfer yn cynnwys 8 tîm gorau Uwch Gynghrair Lloegr, 14 Uchaf Ffrainc a’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig y mae Cymru, De Affrica, Iwerddon, yr Eidal a’r Alban yn cystadlu ynddi.

Y LLEOLIAD A’N DINAS


 

STADIWM PRINCIPALITY

Mae Stadiwm Principality Caerdydd, sy’n Stadiwm gwbl gyfoes â tho y gellir ei agor a’i gau, yn un o arenâu dan do mwyaf y byd, ac mae’n gartref i Undeb Rygbi Cymru URC) sy'n disgrifio'r stadiwm eiconig fel "y lleoliad rygbi gorau yn y byd".

EIN TAITH EPCR

Er ein bod yn gwerthfawrogi y gall y gamp fawr eich denu i'n dinas, bydd prifddinas Cymru yn sicr yn ceisio trosi ymwelwyr i fod yn gefnogwyr Caerdydd, ond os nad ydych yn gwybod beth i'w wneud, rydym wedi mynd i'r afael â'r mater hwnnw gyda'n taith ymwelwyr benodol i EPCR.

ATEB EICH CWESTIYNAU


 

Beth yw EPCR?

Ym mis Mai eleni bydd 30ain rownd derfynol twrnamaint rygbi’r undeb elitaidd EPCR yn dychwelyd i brifddinas Cymru am yr wythfed tro ers y tymor cychwynnol ym 1995/96 pan gododd Stade Toulousain y tlws.

Bydd Caerdydd yn cynnal dwy gêm yn Stadiwm enwog y Principality – rownd derfynol Cwpan Her EPCR ddydd Gwener 23 Mai am 20:00 BST, gyda rownd derfynol Cwpan Pencampwyr Investec y diwrnod canlynol, dydd Sadwrn 24 Mai 2025 am 14:45 BST.

Pwy sy'n cymryd rhan?

Mae’r clybiau rygbi sy’n cymryd rhan yn gymwys ar sail teilyngdod ar gyfer y ddau dwrnamaint yn seiliedig ar berfformiadau yn eu cynghreiriau domestig priodol – Gallagher Premiership Rugby, y 14 uchaf a’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig (URC).

Ni fyddwn yn gwybod pwy sydd yn y rowndiau terfynol tan ychydig wythnosau ymlaen llaw.

Pam Caerdydd?

Mae Caerdydd wedi profi dro ar ôl tro mai ni yw’r gwesteiwr perffaith ar gyfer digwyddiad mawr a, gyda’r Stadiwm yn aml yn cael ei bleidleisio fel un o’r stadia rygbi gorau yn Ewrop, mae’r ddinas yn gyrchfan y mae’n rhaid ymweld ag ef ar gyfer unrhyw gefnogwr chwaraeon.

Wedi’i leoli’n unigryw yng nghanol prysur y ddinas (a hyd yn oed ar draws y ffordd o Gastell 2000 o flynyddoedd oed) mae’r lleoliad heb ei ail – a gyda’i do y gellir ei dynnu’n ôl gall ymdopi â beth bynnag y mae tywydd Cymru yn ei daflu ato! Felly, p’un a ydych yn gefnogwr rygbi brwd, neu ond yn rhywun sy’n mwynhau’r awyrgylch mewn digwyddiad, yna gallai hyn fod y rheswm perffaith i chi ymweld â Chaerdydd!

Beth galla i ei ddisgwyl?

Ar draws y ddau ddiwrnod, bydd strydoedd canol y ddinas o amgylch y stadiwm yn cael eu trawsnewid yn fôr o liwiau ar gyfer y timau gwrthwynebol, tra bydd y tafarndai, y bariau a’r bwytai bywiog yn gorlifo gyda chefnogwyr angerddol, gan greu bwrlwm ar gyfer y diwrnod o’u blaenau.  Bydd yn ddarn bythgofiadwy o ddiwylliant Cymru i ymwelwyr sy’n archwilio’r ddinas.

A dydy’r parti ddim yn dod i ben pan fydd y chwiban yn chwythu!  Er bod y rhwydwaith trafnidiaeth yn dechrau gweithredu gyda systemau ciwio gorsafoedd trên, rhengoedd tacsi, a bysiau parcio a theithio i’r rhai sydd angen cyrraedd adref, mae digon o bobl yn dal i fanteisio ar fywyd nos cyffrous – a bydd Chippy Lane enwog yn gweini cyri a sglodion tan yr oriau mân.

CROESO CYMRU

As well as being a world-class destination in its own right, Cardiff is the perfect starting point for a wider Welsh adventure.

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar gyfer e-Gylchlythyr Croeso Caerdydd heddiw i gael newyddion cyffrous, digwyddiadau, cynigion arbennig, pethau i’w gwneud a mwy gan dîm Croeso Caerdydd.