Neidio i'r prif gynnwys

Mae Croeso Caerdydd wedi ymuno â Bristol Sport a Clayton Hotels i ddathlu gêm gyntaf Bristol Bears a Bath Rugby yn Stadiwm Principality

Bydd un enillydd lwcus a’i westai yn cael mwynhau’r ornest ysblennydd mewn steil gan aros dros nos mewn gwesty yng nghanol y ddinas, tafliad carreg i ffwrdd o’r orsaf Ganolog, ynghyd â chael 2 o’r seddi gorau yn y stadiwm i weld y Diwrnod Mawr.

Darllenwch fwy isod i ddarganfod mwy am yr hyn y gallech ei ennill a sut i gymryd rhan yn y gystadleuaeth…

AROS DROS NOS YNG NGWESTY CLAYTON CAERDYDD

🚶4 munud ar droed o Gaerdydd Canolog |📍CF10 1RH

Gwesty 4* sy’n cynnig golygfa ddelfrydol o’r ddinaswedd ac sydd wedi’i leoli ger atyniadau, siopau, bariau a bwytai mwyaf eiconig Caerdydd, gyda’i ystafell ffitrwydd ei hun, gwasanaeth ystafell a theras to. Gwnewch y mwyaf o’ch arhosiad gyda brecwast wedi’i gynnwys, cofrestru cynnar cyn y gêm ac ymadawiad hwyrach fel y gallwch gysgu’n hwyr.

2 DOCYN ‘CATEGORI A’ AR GYFER Y DIWRNOD MAWR

BRISTOL BEARS YN ERBYN BATH RUGBY YN STADIWM PRINCIPALITY CAERDYDD

🚶4 munud ar droed o Gaerdydd Canolog |📍CF10 1NS

Daw Uwch Gynghrair Gallagher i brifddinas Cymru wrth i Bristol Bears wynebu eu hen elynion lleol Bath Rugby ar gyfer eu “Diwrnod Mawr” yn yr eiconig Stadiwm Principality yng Nghaerdydd. Mae dros 40,000 o docynnau wedi’u gwerthu ar gyfer y gêm enfawr hon wrth i’r ras am y Rowndiau Terfynol ddod i ddiwedd y tymor, gyda’r Diwrnod Mawr yn cynnwys adloniant byw gan y DJ bydenwog Eats Everything a pherfformiad hanner amser epig gan Maximo Park. Ni ddylech golli allan y digwyddiad enfawr hwn.

ENNILL GYDA CROESO CAERDYDD x BRISTOL SPORT x CLAYTON HOTELS

Cliciwch isod i gymryd rhan yn raffl Diwrnod Mawr Croeso Caerdydd. Mae ceisiadau ar agor tan ddydd Mercher 30 Ebrill 2025 am 23:59. Gwnewch yn siŵr eich bod yn adolygu'r holl delerau ac amodau isod cyn cymryd rhan.

TELERAU AC AMODAU

TELERAU'R RAFFL

Sylwch, trwy gofrestru ar gyfer y raffl, rydych yn cytuno â’r canlynol:

  • Bydd gofyn i bawb sy’n cymryd rhan yn y raffl roi eu henw, cyfeiriad e-bost, cod post a rhif ffôn cyswllt dewisol i Croeso Caerdydd. Bydd y wybodaeth yma’n cael ei defnyddio i gysylltu â’r enillydd yn unig, ac ni fydd yn cael ei rhannu ag unrhyw drydydd partïon oni nodir hynny.
  • Bydd manylion pawb sy’n cymryd rhan yn y raffl yn cael eu casglu trwy lenwi’r ffurflen gais gysylltiedig, sydd ar gael yma.
  • Bydd ceisiadau i’r raffl ar agor o ddydd Iau, 22 Ebrill 2025 a rhaid cwblhau pob cais erbyn 23:59 ddydd Mercher, 30 Ebrill 2025.
  • Nid oes angen prynu i gymryd rhan yn y raffl.
  • Mae’r wobr gyfan yn cynnwys 2 elfen a ddarperir gan ein partneriaid. Gellir dod o hyd i ragor o fanylion isod. I’w defnyddio ddydd Sadwrn, 10 Mai 2025 yn unig.
  • Rhaid i bob ymgeisydd fod yn 18+ oed. Ni chaiff gweithwyr adran Datblygu Economaidd Cyngor Caerdydd na’u theuluoedd agos gymryd rhan.
  • Mae ceisiadau i’r raffl wedi’u cyfyngu i un i bob person, ni fydd ceisiadau dyblyg yn ddilys.
  • Nid oes modd cyfnewid na throsglwyddo unrhyw elfen o’r wobr, ac ni ellir ei newid am arian neu wobrau eraill.
  • Bydd Croeso Caerdydd yn darparu gwybodaeth lawn am sut i ddefnyddio’r gwobrau o fewn 7 diwrnod i ddewis yr enillydd.
  • Bydd enillydd yn cael ei ddewis ar hap o blith yr holl geisiadau dilys gan y rheiny sy’n cymryd rhan. Bydd yr enillydd yn cael gwybod o fewn 48 awr ar ôl cael ei ddewis, gan ddefnyddio’r wybodaeth gyswllt a roddodd ar y ffurflen gais. Gwneir pob ymdrech resymol i gysylltu â’r enillydd. Os na fydd yr enillydd yn ymateb o fewn 72 awr, yna gellir dewis enillydd arall trwy ddilyn yr un broses nes bod y wobr yn cael ei hawlio.
  • Mae’r gystadleuaeth yn cael ei hyrwyddo gan Croeso Caerdydd, sydd wedi’i lleoli yn Neuadd y Sir, Glanfa’r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW. Gellir cysylltu â Croeso Caerdydd drwy hello@visitcardiff.com.
BRISTOL SPORT - Big Day Out
  • 2 docyn yng Nghategori A ar gyfer gêm Diwrnod Mawr (2025) – Bristol Bears yn erbyn Bath Rugby.
  • Ni ellir newid tocynnau am gêm arall.
  • Ni ellir trosglwyddo’r tocynnau.
  • Anfonir tocynnau drwy e-bost.
  • Bydd angen i chi ddilyn rheolau Stadiwm Principality.
CLAYTON HOTELS - Gwesty Clayton Caerdydd
  • Arhosiad 1 noson i 2 berson ddydd Sadwrn, 10 Mai 2025.
  • Ystafell ddau wely neu wely ddwbl safonol, gwely a brecwast.
  • Cofrestru cynnar o 12pm a gadael cyn hwyred â 12pm.
  • Brecwast i 2 berson ar gael rhwng 7am a 10:30am.

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar gyfer e-Gylchlythyr Croeso Caerdydd heddiw i gael newyddion cyffrous, digwyddiadau, cynigion arbennig, pethau i’w gwneud a mwy gan dîm Croeso Caerdydd.