Awydd camu i wlad o ddreigiau, cestyll a chwedl sydd ganrifoedd oed? Mae Croeso Caerdydd wedi ymuno â Rheilffordd Great Western ar gyfer raffl wobrau Mythau a Chwedlau na ddylid ei cholli – a bydd un enillydd lwcus a’i westai yn ennill taith chwedlonol i brifddinas Cymru!

Arhosiad mewn ystafell twin neu ddwbl yng Ngwesty’r Parkgate

Gallwch ymlacio mewn amgylchedd moethus y tu mewn i ddau adeilad hanesyddol wedi’u hadfer yn hyfryd, gyda gwaith cerrig addurnedig a chyffyrddiad o ddrama oesol. Dafliad carreg o Stadiwm Principality a Chastell Caerdydd, byddwch mewn sefyllfa wych i ddarganfod popeth sydd gan Gaerdydd i’w gynnig.

CINIO A DIODYDD I DDWYNGAN YN COFFEE BARKER

Dim ond 5 munud ar droed o’r gwesty, mae Coffee Barker a’i chwaer-fusnes Rum & Fizz yn cynnig y profiad perffaith yng nghanol dinas Caerdydd. Bydd yr enillydd lwcus yn derbyn taleb ar gyfer prif bryd cinio a diod feddal yn Coffee Barker, sydd wedi’i leoli yn arcêdau Fictoraidd ac Edwardaidd hardd Caerdydd, ynghyd ag un diod alcoholig ddethol yn Rum & Fizz, y bar chwaer chwaethus drws nesaf. Mae hwn yn gyfle gwych i fwynhau dau o leoliadau annibynnol poblogaidd Caerdydd.

2 x TOCYN MYNEDIAD I GASTELL CAERDYDD

Archwiliwch 2,000 o flynyddoedd o hanes yn eich pwysau, o gaer Rufeinig i gampwaith Gothig Fictoraidd, darganfyddwch ystafelloedd byw ysblennydd y teulu Bute. Gyda llwybrau clir, cyfleusterau ar y safle a digon i’w weld, fe gewch yno gymysgedd o fannau awyr agored ac ystafelloedd dan do, sy’n ei gwneud yn ymweliad pleserus ym mhob tywydd.

2 x TOCYN TRÊN DYCHWELYD GYDA GWR

Does dim angen poeni am deithio, mae’r cyfan dan ofal GWR. Mae eich taith i wlad y chwedlau yn dechrau yma, gyda gwasanaethau uniongyrchol o Paddington Llundain, Bryste, Caerfaddon a thu hwnt yn syth i Gaerdydd Canolog.

Rhaid Ymgeisio Er Mwyn Ennill

 

Mae telerau ac amodau yn berthnasol, sgroliwch i lawr i ddarllen.

DARGANFOD MYTHAU A CHWEDLAU CAERDYDD

Darganfyddwch fwy am y lleoliadau uchod, ynghyd â straeon rhai o'n hadeiladau hanesyddol.

TELERAU AC AMODAU

  • Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed neu’n hŷn i gymryd rhan yn y raffl. 
  • Dim ond unwaith y caiff pob cystadleuydd gofrestru. 
  • Rhaid i gystadleuwyr nodi eu manylion erbyn 23:59GMT ar 6 Awst 2026.
  • Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis ar hap a’i hysbysu Ddydd Gwener 7 Awst 2026.
  • Bydd gan yr enillydd tan 5pm ar 10 Awst 2026 i dderbyn y wobr neu bydd enillydd arall yn cael ei ddewis.
  • Does dim angen prynu unrhyw beth i gystadlu a does dim cost i gystadlu.
  • Bydd telerau ac amodau raffl y wobr hon yn cael eu llywodraethu gan gyfraith Lloegr.
  • Mae’r hyrwyddwr yn cadw’r hawl i ganslo neu ddiwygio’r gystadleuaeth a’r telerau hyn os bydd amgylchiadau’n codi y tu hwnt i’w reolaeth.
  • Nid yw Croeso Caerdydd yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw ddifrod, colled, anaf neu siom a ddioddefir gan ymgeiswyr o ganlyniad i naill ai cymryd rhan yn y gystadleuaeth.
  • Mae ymgeiswyr yn darparu gwybodaeth i’r hyrwyddwr a dim ond i weinyddu’r gystadleuaeth y bydd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio.
  • Bydd cyfenw a lleoliad enillydd y wobr yn y DU ar gael drwy e-bostio o fewn mis o ddiwedd y raffl.
  • Yr hyrwyddwr yw Croeso Caerdydd, Neuadd y Sir, Glanfa’r Iwerydd, Caerdydd CF10 4UW.
  • Ystyrir y bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn y raffl wedi derbyn y telerau ac amodau hyn.
  • Arhosiad am un noson i ddau mewn ystafell twin neu ddwbl safonol yng Ngwesty’r Parkgate.
  • Cyrraedd o 4pm.
  • Gadael erbyn 11am.
  • Mae’r wobr yn cynnwys un prif bryd cinio a diod feddal yr un yn Coffee Barker, a dwy ddiod feddal neu ddiod alcoholig ddethol yn Rum & Fizz.
  • Mae’n rhaid archebu ymlaen llaw, ac mae’r archeb yn amodol ar argaeledd.
  • Rhaid cyflwyno’r daleb wrth gyrraedd.
  • Bydd unrhyw fwyd, diodydd neu eitemau ychwanegol nad ydynt wedi’u cynnwys yn y wobr yn gyfrifoldeb yr enillydd i’w talu.
  • Mae diodydd alcoholig ar gael i westeion 18 oed neu’n hŷn yn unig. Efallai y bydd angen dangos prawf adnabod dilys.
  • Nid yw’r daleb yn drosglwyddadwy ac ni ellir ei chyfnewid, ei had-dalu na’i hailwerthu.
  • Bydd cyfnod dilysrwydd y daleb wedi’i nodi ar y daleb.
  • Mae Coffee Barker a Rum & Fizz yn cadw’r hawl i roi eitemau o werth cyfatebol yn lle eitemau ar y fwydlen os na fyddant ar gael.
  • 2 x tocyn mynediad i Gastell Caerdydd yn unig
  • Nid yw’r daith wedi’i chynnwys, ond gellir ei harchebu ar wahân o Swyddfa Docynnau Castell Caerdydd.
  • Mae’r wobr yn cynnwys tocyn trên cychwelyd dosbarth safonol i Gaerdydd Canolog ar gyfer 2 oedolyn. Mae tocynnau yn ddilys ar drenau Great Western Railway yn unig.
  • Mae tocynnau yn amodol ar argaeledd, ni ellir eu cyfnewid neu eu had-dalu.
  • Mae tocynnau yn ddilys i’w defnyddio tan 30 Tachwedd 2026.