Neidio i'r prif gynnwys

A Night at the Musicals

Dyddiad(au)

20 Gorff 2024

Amseroedd

19:30 - 22:30

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Bydd y cyngerdd arbennig yma, sy’n dathlu 20 mlynedd o Ganolfan Mileniwm Cymru, yn cyflwyno fersiynau cain a soffistigedig o rai o’r caneuon mwyaf poblogaidd o sioeau cerdd sydd wedi ymddangos ar lwyfan y ganolfan dros yr 20 mlynedd diwethaf.

O Wicked i Les Misérables, Chicago i Phantom of the Opera a mwy, mae A Night at the Musicals yn cynnwys The Novello Orchestra, un o gerddorfeydd sioe gorau’r byd, sy’n dychwelyd i’w cartref ysbrydol gyda’u brwdfrydedd a’u carisma nodedig.

Mewn noson yn llawn sêr a glamor digywilydd, yn ymuno â’r gerddorfa bydd y grŵp theatr gerdd a sêr Britain’s Got Talent Welsh of the West End, sydd wedi diddanu cynulleidfaoedd ledled y byd gyda’u fideos o fersiynau anhygoel o glasuron theatr gerdd a pherfformiadau byw mewn lleoliadau eiconig fel y Royal Albert Hall a The London Palladium.

Wedi’i arwain gan David Mahoney. Peidiwch â cholli’r cyngerdd mawreddog yma!