Beth wyt ti'n edrych am?
Alexander Boldachev
Dyddiad(au)
21 Chwe 2025
Amseroedd
13:15 - 14:00
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae gan y delyn le arbennig yn ein calonnau yn CBCDC – a phrin yw’r telynorion presennol sy’n creu mwy o gynnwrf na’r chwaraewr ifanc penigamp o dras Swis-Rwsaidd, Alexander Boldachev. Mae’n chwaraewr sy’n llwyr ymroi i bopeth a wna: byddwch yn barod am angerdd, barddoniaeth a roc ‘n’ rôl wrth iddo berfformio gweithiau telyn gan Vivaldi, Rachmaninoff, Arvo Pärt…ac One Republic.
Rhaglen:
Vivaldi Summer and Winter
Arvo Pärt Fratres
Rachmaninov Preliwd yn C# Leiaf
Tchaikovsky Dance of the Sugar-Plum Fairy
Shostakovich Valse Rhif 2
One Republic Medley
£8