Beth wyt ti'n edrych am?
Amélie: The Musical
Dyddiad(au)
18 Chwe 2025 - 21 Chwe 2025
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae Amélie yn fenyw ifanc hynod sy’n byw’n dawel yn y byd ond yn uchel ei meddwl. Yn dawel bach ac yn fyrfyfyr mae’n cyflawni gweithredoedd bychan ond rhyfeddol o garedigrwydd sy’n dod â llawenydd ac anhrefn. Ond pan ddaw cyfle iddi am gariad mae Amélie yn sylweddoli er mwyn dod o hyd i hapusrwydd bydd yn rhaid iddi fentro popeth a dweud beth sydd yn ei chalon. Cewch eich ysbrydoli gan y freuddwydwraig llawn dychymyg hon sy’n dod o hyd i’w llais, yn darganfod grym cysylltiad, ac yn gweld posibilrwydd ym mhob sefyllfa.
Llyfr gan Craig Lucas
Cerddoriaeth gan Daniel Messé
Geiriau gan Nathan Tysen & Daniel Messé
Cyfarwyddwr Anthony Lau
Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Charlie Ingles
Yn seiliedig ar y ffilm ‘Amélie’ a ysgrifennwyd gan Jean-Pierre Jeunet a Guillaume Laurant.
Wedi’i chefnogi gan Gronfa Gyswllt.
Oed 14+
£9-£18