Neidio i'r prif gynnwys

Amgueddfa Dros Nos: Deinos

Dyddiad(au)

08 Maw 2025 - 09 Maw 2025

Lleoliad

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NP

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Gwahoddiad arbennig – dewch i ddarganfod beth sy’n digwydd yn yr Amgueddfa wedi iddi nosi…ac aros y nos!

Dyma fydd yn digwydd:

  • Taith dan olau fflachlamp i archwilio Cymru fel yr oedd 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl
  • Cyfarfod ambell i ddeinosor cyfeillgar mewn sioe i’w chofio
  • Gweithdy crefft – wedi’u hysbrydoli gan ffosilau, olion troed ac esgyrn o gasgliad yr Amgueddfa
  • Ffilm cyn gwely yn ein theatr fawreddog – cyn cysgu o dan y gromen fawr…a breuddwydio am wlad
  • Dihuno ben bore am frecwast cyn mwynhau sesiwn ymarfer corff (ysgafn!) i’r teulu cyfan gyda DanceFit Wales
  • Deffro’n gynnar i grwydro’r orielau, cyn mentro’n ôl i’r 21ain ganrif.