Beth wyt ti'n edrych am?
Â’n gwreiddiau yn ein Dhaqan
Dyddiad(au)
22 Gorff 2025 - 01 Med 2025
Amseroedd
10:30 - 16:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Arddangosfa gan Ymddiriedolaeth Menywod Hayaat ac Al Naaem
Yr haf hwn, mae’r Senedd yn falch o gynnal Â’n gwreiddiau yn ein Dhaqan, sef arddangosfa newydd a grëwyd gan ddau sefydliad lleol.
Mae’r arddangosfa yn gydweithrediad rhwng Prosiect Young Queens Ymddiriedolaeth Menywod Hayaat, sef menter gelfyddydol ar gyfer menywod ifanc Somali o Gymru – a chylchgrawn Al Naaem, sef cyhoeddiad sy’n canolbwyntio ar ffasiwn, ffotograffiaeth a chelf Pobl Ddu a Mwslimaidd.
Gan weithio gyda Asma Elmi, sylfaenydd a chyfarwyddwr creadigol Al Naaem, creodd y grŵp waith celf sy’n canolbwyntio ar ‘Dhaqan’, sef gair Somalïaidd am ddiwylliant.
“Mae’r prosiect hwn yn deyrnged bwerus i gryfder, gwydnwch a harddwch treftadaeth Somalia.”
“Mae’n anrhydeddu diwylliant sydd wedi’i seilio’n ddwfn mewn ffydd a balchder, wedi’i lywio gan genedlaethau o adroddwyr straeon, gweledigaethau a goroeswyr.”
“Ar sail ysbryd gwydn y cenedlaethau a fu, mae’n dathlu hunaniaeth, ymdeimlad o berthyn, a’r edafedd sy’n cysylltu’r gorffennol â’r presennol.”
“Gyda thirweddau godidog Cymru yn gefndir iddo, mae’r prosiect yn creu cyferbyniad trawiadol — ble mae bryniau tonnog a gorwelion arfordirol yn asio â thraddodiadau bywiog, iaith a rhythm barddonol bywyd Somalia.”
“Drwy’r ddeialog weledol a diwylliannol hon, mae’n gwahodd pobl i fyfyrio ar hunaniaeth ddeuol, ar fudo, a’r ffyrdd y mae treftadaeth yn parhau i esblygu.”
“Yn y bôn, mae hwn yn ddathliad—nid yn unig o ble rydyn ni’n dod, ond hefyd o’n taith.”
Cymerwch ran
– “Ry’n ni’n rhan o’r cyfoeth o bwy ydym ni” – Gweithgaredd Rhannu ‘Â’n gwreiddiau yn ein Dhaqan’
Mae’r ffilm ‘Â’n gwreiddiau yn ein Dhaqan’ yn dathlu treftadaeth Somalïaidd yng Nghymru. Pe gallech chi wneud ffilm sy’n dathlu eich diwylliant neu’ch cymuned, beth fyddech chi eisiau ei rannu gyda phobl y dyfodol? Rhwng 22 Gorffennaf a 1 Medi, dewch i weld yr arddangosfa a rhannu eich meddyliau yn y Senedd.
– Gweithdy creadigol gydag Al Naaem
Pryd: Dydd Llun 25 Awst, 10:30-12:00
Ble: Y Senedd
Yn addas ar gyfer plant a phobl ifanc 11 oed ac yn hŷn
Nid oes yn rhaid cadw lle ymlaen llaw – yn hytrach, gallwch alw heibio ar y diwrnod
Fel rhan o’r arddangosfa ‘Â’n gwreiddiau yn ein Dhaqan’, bydd Al Naaem yn cynnal gweithdy barddoni ac ysgrifennu creadigol gyda’r nod o rymuso pobl ifanc a datblygu eu creadigrwydd.
Bydd cyfranogwyr yn archwilio eu treftadaeth a’u hunaniaethau trwy ymarferion ysgrifennu dan arweiniad ac adrodd straeon, gan helpu iddynt ddatblygu eu lleisiau unigryw eu hunain a meithrin hyder. Bydd y gweithdy’n ysbrydoli beirdd ac awduron y dyfodol i fynegi eu hunain yn llawn, gan ddathlu amrywiaeth ddiwylliannol a meithrin y genhedlaeth nesaf o artistiaid ac arweinwyr.
*Caiff y gweithdy ei gynnal trwy gyfrwng y Saesneg.
Cefnogir Prosiect ‘Young Queens’ Ymddiriedolaeth Menywod Hayaat gan Gynllun Grantiau Diwylliant Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Diverse Cymru.
Ffotograffwyr: Sally Nguyen a Saif Elsafany
Cyfarwyddwr: Asma Elmi