Beth wyt ti'n edrych am?
Biconic
Dyddiad(au)
25 Ebr 2025
Amseroedd
19:30 - 22:00
Gwybodaeth am y Digwyddiad
AR ÔL EI DDIGWYDDIAD PEILOT LLWYDDIANNUS YM MIS MEDI, MAE BICONIC YN ÔL AC MAE’R FFORMAT WEDI CAEL EI WEDDNEWID RYW YCHYDIG!
Cynhelir gan y biconau lleol Miriam Isaac a Geraint Rhys Edwards, mae ‘Biconic’ yn dathlu’r gymuned ddeurywiol a biconau enwog. Bydd y perfformwyr yn talu teyrnged i biconau enwog ond bydd yn eu datgelu ar y noson ar ffurf ‘Stars in Their Eyes’! Ddim yn gwybod beth mae hyn yn ei feddwl? Fel hyn!
– Pa biconau enwog? Pwy â ŵyr?!
– Pwy sydd yn y cast? I’w gadarnhau.
– A fydd y fformat newydd yn gweithio? Dim clem!
– A fydd cwis eto y gallech ennill taleb brecinio o bosib? Efallai! Dydyn ni ddim wedi penderfynu eto!
Mae gennym gynifer o gwestiynau â chi, ond dewch draw i ‘Biconig’ i ddarganfod yr atebion a chefnogi’ch hoff enwogion deurywiol!