Beth wyt ti'n edrych am?
Big Bash 2025: Colin Currie ac Offerynnau Taro CBCDC
Dyddiad(au)
21 Maw 2025
Amseroedd
13:15 - 14:00
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Os gallwch ei daro, gallwch greu cerddoriaeth ag ef – ac yn nwylo’r offerynnwr taro gwych Colin Currie, does dim byd yn amhosibl. Bydd tîm gwych o offerynwyr taro CBCDC yn ymuno â Currie ar gyfer cyngerdd awr ginio sydd â blas o du draw i’r Iwerydd – gan gynnwys y perfformiad cyntaf yn Ewrop o Symffoni Offerynnau Taro ffrwydrol Charles Wuorinen. Nid yw creu hanes erioed wedi swnio mor gyffrous!
Jennifer Higdon Splendid Wood
Joe Pereira Vow
Charles Wuorinen Ail Symffoni ar gyfer Offerynnau Taro (perfformiad cyntaf yn Ewrop)
£8