Beth wyt ti'n edrych am?
Burlesque March Madness
Dyddiad(au)
22 Maw 2025
Amseroedd
20:00 - 22:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae’r gwanwyn ar y gorwel, ac rydyn ni’n teimlo’n nwyfus!
Neidiwch i mewn i fyd dychmygol gyda rai o gwningod, adar a gwenyn bwrlesg gorau’r DU. Dewch i gael gwared ar felan y gaeaf gyda sioe sy’n sicr o godi gwên. Sioe sy’n cynnwys caneuon rhywiol, comedi gwirion a dawnsio gogoneddus – rydych chi’n sicr o weld rhywbeth nas gwelwyd erioed o’r blaen.
Cyflwynir gan FooFoo Labelle, criw cabaret o Gaerdydd a fydd yn croesawu’r tymor newydd gyda’r artistiaid disglair Dominus Von Vexo, Mimi SugarPill, Strawberry Moon, Chelsey Buns a dawnswyr gwych Cardiff Cabaret Club.
Wedi’i sylfaenu yn 2008 mae Cardiff Cabaret Club wedi bod yn dod a’i gyfuniad unigryw o fwrlesg tanbaid i ganolfannau’r brif ddinas am 16 mlynedd odidog.
Cyflwyno gan FooFoo LaBelle a Cardiff Cabaret Club.