Beth wyt ti'n edrych am?
Clasuron y Nadolig gan Tim Burton
Dyddiad(au)
18 Rhag 2026
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Croeso i fydoedd ffantasi Tim Burton! Rydym yn eich gwahodd ar daith drwy’r gerddoriaeth a’i wnaeth yn fythgofiadwy.
O ryfeddod disglair Alice in Wonderland i hud Nadoligaidd The Nightmare Before Christmas, o delynegiaeth arswydus Edward Scissorhands i ddisgleirdeb ecsentrig Charlie and the Chocolate Factory – bydd y gyngerdd hon yn eich trochi yn y seinweddau a luniodd fydysawd sinematig unigryw Burton.
Wrth galon y cyfan fydd cerddoriaeth Danny Elfman, cydweithiwr gydol oes i Burton ac un o gyfansoddwyr ffilm mwyaf nodedig ein hoes. Mae cerddoriaeth Elfman yn cyfuno elfennau chwareus ag elfennu bygythiol, tynerwch â mawredd – adlewyrchiad perffaith o ddychymyg gweledol Burton. Ochr yn ochr ag Elfman, bydd uchafbwyntiau yn cynnwys sawl perfformiad bythgofiadwy arall, gan gynnwys Corpse Bride, Beetlejuice, cerddoriaeth ysgubol a gothig Batman, a drama finiog Sweeney Todd: The Demon Barber of Fleet Street.
Yn y perfformiad cyntaf hwn yng Nghaerdydd, mae’r Mystery Ensemble yn dod â bydoedd Burton yn fyw mewn trefniadau unigryw. Bydd lleisiau esgynnol, lliwiau offerynnol beiddgar, ac awyrgylch fydd yn newid mewn amrantiad – o’r brawychus i’r hudolus, o’r tyner i’r epig.
Bydd hud dirgel y cyngerdd yn cael ei greu trwy’r cysylltiad rhwng y cerddorion, y bensaernïaeth amgylchynol, y goleuadau a’r gerddoriaeth ei hun.
Byddwch yn teimlo fel pe baech wedi camu i mewn i ganol un o ffilmiau Tim Burton!