Beth wyt ti'n edrych am?
Cyfres Piano Llŷr Williams 2023-2025: Datganiad 6
Dyddiad(au)
08 Mai 2025
Amseroedd
19:30 - 21:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae Llŷr Williams – pianydd penigamp ac artist cyswllt CBCDC – yn cyrraedd diwedd taith gerddorol, ac yn cloi ei siwrnai â sonatâu gan Haydn a Mozart a miniaturau gan Schumann sy’n fwy prydferth nag sy’n bosibl eu chwarae. Heno mae’n arddangos ei “grefft ryfeddol a’i ddawn arbennig” gyda cherddoriaeth sydd mor ffres nawr ag ydoedd pan gafodd ei chreu gyntaf.
Mozart Sonata Rhif 13 yn B-feddalnod Fwyaf, K.333
Haydn Sonata Rhif 50 yn C
Schumann Novelettes Op. 21 Rhif 1, 2, 6 ac 8
Schumann Romanze yn F llonnod Op. 28 Rhif 2
Schumann Gesange der Fruhe Op. 133 Rhif 1 a 5
£12-£24