Beth wyt ti'n edrych am?
Dathlu Paentiadau Cyfoes Cymreig
Dyddiad(au)
10 Ion 2025 - 25 Chwe 2025
Amseroedd
10:30 - 16:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Arddangosfa gan y Grŵp Cynllunio Dathlu Paentiadau Cyfoes Cymreig
Noddir gan Dawn Bowden AS
Nod Dathlu Paentiadau Cyfoes Cymreig (CoWCP) yw dangos y bywiogrwydd a’r doniau o ran paentio sydd i’w gael yng Nghymru.
Drwy gyfres o arddangosfeydd ar draws un ar bymtheg o leoliadau yng ngogledd, de, canolbarth a gorllewin Cymru, mae CoWCP yn cynrychioli rhai o arlunwyr mwyaf arwyddocaol Cymru yn ogystal â’r rhai sydd ar ddod i’r amlwg.
Gan ddechrau yn 2017 gyda dim ond dau leoliad, mae’r dathliad eleni yn cynnwys mwy na 150 o beintwyr yn cymryd rhan, felly dyna dipyn o dwf.
Mae ein dehongliad o’r gair paentio yn eang ac mae’n cynnwys gweithgareddau sy’n cynnwys cerameg, gwydr, carreg, papur, tecstilau a phren yn ogystal â phaentio traddodiadol.
Ar gyfer ein harddangosfa yn Oriel y Dyfodol rydym wedi arddangos enghreifftiau o arddangosion o bob lleoliad i ddangos yr amrywiaeth eang o ddoniau sydd ar gael ledled Cymru heddiw.
www.cowcp.com
Llun: Dusk gan Sarah Hopkins a Muhummad Atif Khan