Beth wyt ti'n edrych am?
Deeva D Presents | Devious Delights
Dyddiad(au)
18 Ebr 2025
Amseroedd
20:00 - 22:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Dathliad o bopeth drwg a da, gyda digonedd o elfennau nwydus ac amheus i’r synhwyrau i gyd.
Ymunwch â Deeva D a ffrindiau am noson o cabaret, bwrlésg, comedi a drag, gyda pherfformwyr llwyddiannus o bob rhan o’r DU, ac eiconau lleol hefyd.
Mae Devious Delights yn mentro i’r temtasiynau gwaharddedig a oedd bob amser yn rhy dda i fod yn wir. Y danteithion melys sy’n cael eu cadw ar gyfer achlysuron arbennig, a’r syrpreisys pefriog roeddech chi ond yn gallu eu haddoli o bell, ond byth eu cyffwrdd. Dathliad yw hwn, arddangosfa, gwahoddiad i ymuno â Deeva D i fwynhau’r pleserau gorau sydd gan cabaret i’w cynnig.
Gyda Deeva D, Lilly Snatchdragon, Cadbury Parfait a mwy o westeion arbennig.