Beth wyt ti'n edrych am?
Gary Williams | Legends of Las Vegas
Dyddiad(au)
21 Maw 2025
Amseroedd
20:00 - 22:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Ymunwch â ni i ddathlu sêr Las Vegas, gyda Gary Williams a Nathan Martin.
Mae Gary wedi’i ddisgrifio fel “the UK’s leading standard bearer for the supercool era” a ‘Legends’ yw ei deyrnged i’r sêr mwyaf i berfformio yn Las Vegas, gan gynnwys Burt Bacharach, Elvis Presley, Matt Monro a Nat ‘King’ Cole. Fe chwaraeodd Gary rôl Frank Sinatra yn y West End, felly mae’r ‘Rat Pack’ yn rhan fawr o’r sioe, gyda chyflwyniad o ganeuon gorau Frank, Dean a Sammy.
Mae Gary wedi perfformio ledled y byd, gan gynnwys yn Bestival, Palas Buckingham, Carnegie Hall, Birdland Tokyo, Ronnie Scott’s, y Melbourne Symphony a chartref Sinatra yn Palm Springs.
Bydd Nathan Martin yn ymuno ar y piano. Mae Nathan wedi perfformio’n eang mewn cyngherddau a cabaret ledled y byd, yn enwedig yn Llundain ac Efrog Newydd. Mae ei waith yn y West End yn cynnwys The Producers (Drury Lane) a Miss Saigon (Drury Lane).
Ymunwch â Gary a Nathan am ddigon o chwerthin, dathliad llawen o gerddoriaeth a’r gorau o Las Vegas.