Beth wyt ti'n edrych am?
Ghost Stories
Dyddiad(au)
29 Gorff 2025 - 02 Awst 2025
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Dewch i mewn i fyd sy’n llawn troeon cynhyrfus ac epig, lle caiff y llythyr cariad eithaf i arswyd ei ddychmygu’n fyw ar y llwyfan.
Pan mae’r Athro Goodman, amheuwr mawr sy’n bwriadu chwalu bri’r goruwchnaturiol, yn ymgymryd ag ymchwiliad i dri achos honedig o ysbrydion – fel yr adroddwyd gan wyliwr nos, bachgen yn ei arddegau a dyn busnes sy’n disgwyl ei blentyn cyntaf – mae Goodman yn ffeindio ei hun wrth derfyn rhesymegedd, ac yn rhedeg allan o esboniadau yn gyflym.
Ghost Stories, sy’n brofiad synhwyraidd a gwefreiddiol, yw un o’r dramâu a gafodd yr adolygiadau gorau erioed yn Llundain, a bydd yn eich cadw ar flaen eich sedd. Mae hwn yn brofiad theatraidd unigryw.
Ar ôl llonni cynulleidfaoedd ledled y byd gyda chynyrchiadau a werthodd allan ac a dorrodd recordiau a ffilm lwyddiannus, mae Ghost Stories gan Andy Nyman a Jeremy Dyson wedi cael ei disgrifio fel “Genuine scary fun” (Sunday Times), ac mae’n ffenomenon byd-eang sy’n fwy iasol ac arswydus nag erioed o’r blaen.
Ydych chi’n ddigon dewr i archebu?