Neidio i'r prif gynnwys

Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris

Dyddiad(au)

10 Hyd 2023 - 15 Hyd 2023

Lleoliad

Canol y Ddinas Caerdydd

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Cynhelir 17eg Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris ddydd Mawrth 10 – dydd Sul 15 Hydref 2023 yng Nghaerdydd. Mae’r rhaglen eleni’n cynnwys mwy na 50 o ffilmiau byrion, 12 ffilm nodwedd, sgyrsiau gan weithwyr proffesiynol y diwydiant ffilm a’r noson agoriadol ysblennydd a’r Sioe Wobrwyo wych – ynghyd â gig gyffrous a gynhelir yng ngofod queer mwyaf newydd Caerdydd, Enby’s, yn Wharton Street, Caerdydd.

 

Ymhlith y gwesteion yn yr ŵyl eleni mae Russell T Davies (Queer as Folk, Doctor Who, It’s A Sin), cyfarwyddwr Heartstopper a mab Caerdydd, Euros Lyn, y Fawzia Mirza di-stop (Kam Kardashian, Brown Girl Problems a The Queen of My Dreams yn dangos yn yr ŵyl eleni), yn ogystal â llawer o wneuthurwyr ffilm sy’n cynrychioli eu ffilmiau mewn cystadleuaeth.  Bydd Caerdydd yn fwrlwm o dalent ar gyfer Wythnos Iris.

Dywed Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris: “Mae yna bob amser rhywfaint o bryder yn gymysg â’r cyffro pan fyddwn yn mynd yn fyw gyda’r rhaglen Iris lawn. Eleni mae gennym gymysgedd gwych o straeon LHDTQ+ I’w rhannu; bydd ein cynulleidfa yn profi wythnos o emosiynau wrth i ni wylio ffilmiau, siarad am ffilmiau, a llawer mwy.

“Mae 2023 yn teimlo fel blwyddyn arbennig iawn i Iris wrth i ni groesawu pobl yn ôl i’r sinema. Mae sicrhau bod gennych raglen wych yn bwysig os ydym yn mynd i fod yn llwyddiannus. Mae’n eithaf anarferol i ni gael yr holl ffilmiau nodwedd roedden ni eu heisiau – ond eleni fe wnaethon ni, ac rydyn ni wedi gorffen gyda 12 ac nid y 10 roedden ni wedi’u cynllunio’n wreiddiol.

“Taswn i’n cael fy ngorfodi i ddewis un uchafbwynt byddai’n rhaid iddo fod yn Chuck Chuck Baby. Y tro diwethaf i mi fod mor gyffrous oedd ar ôl gweld Muriel’s Wedding mewn gŵyl bron i 30 mlynedd yn ôl. Wedi’i chyfarwyddo gan Janis Pugh, mae’r ffilm yn un sy’n codi’r galon, wedi’i lleoli mewn ffatri ieir yng ngogledd Cymru. Bydd yn gwneud i chi grio; bydd yn gwneud i chi chwerthin, ac mae’n debyg y bydd yn eich cael i ddawnsio yn eich sedd. Ac os nad yw Northern Lights gan Renaissance yn ail-fynd i mewn i’r siartiau ar ôl ei ryddhau, byddaf yn bwyta fy het!”