Beth wyt ti'n edrych am?
Gŵyl y Gaeaf Caerdydd - Castell Caerdydd
Dyddiad(au)
16 Tach 2023 - 02 Ion 2024
Amseroedd
11:00 - 22:00
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Bydd digwyddiad enwog a phoblogaidd Gŵyl y Gaeaf Caerdydd yn dychwelyd yn 2022. Wedi’i rannu ar draws dau leoliad yng nghanol y ddinas unwaith eto, bydd ymwelwyr nawr yn gallu mwynhau Gŵyl y Gaeaf yng Nghastell Caerdydd ac ar Lawnt Neuadd y Ddinas.
YNG NGHASTELL CAERDYDD
Y Llwybr Iâ
Eleni, bydd Llawr Sglefrio a Llwybr Iâ Gŵyl y Gaeaf Caerdydd yn cael eu gosod o fewn tiroedd prydferth Castell Caerdydd gyda’r Gorthwr Normanaidd yn gefndir iddynt. Mae’r llawr sglefrio dan do 40m x 15m, gyda’r Llwybr Iâ 150m, yn addas ar gyfer pob oedran a gallu. Mae sesiynau hygyrch ar gael bob prynhawn Mercher rhwng 13:30 a 14:30.
Mae tocynnau ar gyfer y sesiynau sglefrio iâ ar werth nawr.
Cymhorthion Sglefrio ar gyfer Gwesteion Llai
Bydd y pengwiniaid enwog yn dychwelyd ac mae’r nythfa wedi tyfu! Erbyn hyn mae hyd yn oed mwy o gymhorthion sglefrio ar gael i blant sydd angen cymorth ar yr iâ. Rhaid archebu ymlaen llaw.
Bwyd a diod y Nadolig
O dortilas pwdin Efrog sylweddol i falws melys wedi’u tostio, bydd digon o opsiynau ar gael o fewn muriau’r Castell.
AR LAWNT NEUADD Y DDINAS
Atyniadau’r Ffair i’r Teulu
Nid yw Gŵyl y Gaeaf Caerdydd yn gyflawn heb ei ffair enwog i deuluoedd. Yn ôl yr arfer, gallwch fwynhau’r olygfa orau o’r ddinas o’r Olwyn Enfawr a bydd amrywiaeth mawr o atyniadau eraill sy’n addas ar gyfer pob oed yn ogystal ag adloniant gyda’r hwyr.
Sur la Piste, Bar Caban Sgïo
Bydd y caban sgïo deulawr bythol boblogaidd, Sur la Piste, yn dychwelyd ac eleni bydd yn dod gyda theras to awyr agored newydd sbon.
Y Bar Iâ!
Ymlaciwch gyda’ch ffrindiau a mwynhewch ddiod yn lleoliad mwyaf cŵl y ddinas, sef profiad newydd cyffrous y Bar Iâ yng Ngŵyl y Gaeaf Caerdydd! Dyma nefoedd i Instagramwyr gyda thymheredd dan sero ac ie, mae popeth wedi’i wneud o iâ. I ymweld â’r Bar Iâ, gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu slot amser ymlaen llaw.
Bwyd a diod y Nadolig
Eisteddwch yn ôl a mwynhewch eich hoff ddanteithion melys a sawrus yn ardaloedd eistedd dan orchudd y Pentref Alpaidd.
*Sylwer: Na fydd arddangosfa tân gwyllt Nos Galan yng nghanol dinas Caerdydd y flwyddyn yma.