Neidio i'r prif gynnwys

Gŵyl Sŵn

Dyddiad(au)

20 Hyd 2023 - 22 Hyd 2023

Lleoliad

Canol y Ddinas Caerdydd

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Gyda darganfod cerddoriaeth a dyrchafu doniau wrth ei gwraidd, heddiw mae Gŵyl Sŵn Caerdydd yn cyhoeddi 20 ar gyfer 23: sef ugain o’r artistiaid newydd mwyaf cyffrous a fydd yn ymddangos yn yr ŵyl eleni, a’r enwau cyntaf i gael eu cyhoeddi ar gyfer gŵyl 2023, a fydd yn digwydd ledled y brifddinas rhwng 20 a 22 Hydref. Rhyngddyn nhw, mae’r grŵp o artistiaid sydd wedi’u casglu ynghyd yn cyfleu’r cyfoeth o ddoniau ac amrywiaeth ar draws tirlun cerddorol Prydain, yn ogystal â rhoi llwyfan i artistiaid newydd mwyaf addawol y sîn yng Nghymru. Yn dilyn llwyddiant Sŵn 2022 – sef yr ŵyl gyntaf a gynhaliwyd ar raddfa lawn ers cyn y pandemig – mae’n argoeli i fod yn flwyddyn arall o feithrin yr artistiaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol gorau, a chynnig llwyfan at bethau gwell.

 

HEADLINE ACTS: 20 FOR '23

Mae’r aflonyddwr pop Jessica Winter yn dod i’r ddinas, gan ein denu i fyd o gabare gothig dawnsiog. Mae’n gwyrdroi pop i siapiau anghyfforddus ond anorchfygol, o trap ac indi i grŵfs disgo – a’r cyfan â naws operatig. Mae EP gyntaf mawr ei haros Jessica, Limerence, wedi syfrdanu ledled Prydain, gyda phobl fel y Guardian a Jack Saunders o BBC Radio 1 yn cael eu swyno gan ei hud synth-goth.

Un artist y mae’n rhaid ei weld er mwyn ei gredu yw’r lled-chwedlonol Lynks. Yn ddigon hawdd ei adnabod diolch i’r gwisgoedd mae’n eu creu, mae wedi cael ei ddisgrifio fel ‘bwystfil drag mewn mwgwd’, neu gan NME fel ‘gimp alt-pop’, ac mae ei hoffter at ganeuon dawns yn-eich-wyneb, bas byddarol, ac ethos cwiar a phync yn creu profiad byw heb ei debyg.

Yn ymuno â nhw mae’r arloeswr alt-pop Ethan P. Flynn a gafodd ei ddisgrifio gan Slowthai fel “cystal â Bowie… arwr ar waith”. Mae ei ddawn i wyrdroi a gwthio terfynau’r hyn mae pop yn gallu ei wneud yn rhywbeth sydd wedi arwain at gydweithio gyda FKA Twigs, Jockstrap, Black Country New Road a David Byrne

Mae perfformiadau byw y band o Gymru Slate wedi cael eu disgrifio fel ‘profiad naratif’. Mae eu math nhw o ôl-pync garw gafael-wrth-eich-coler yn cyd-fynd â darnau o ryddiaith sydd wedi’u hysbrydoli gan eu cyd-gariad at farddoniaeth Ramantaidd, sy’n creu arddangosiad trawiadol ar gyfer band mawr nesaf Cymru sydd ar gynnydd.

Gydag albwm newydd An Inbuilt Fault ar y gorwel ac yn barod i ymddangos yng Ngŵyl Sŵn, mae Westerman yn argoeli i fod yn fwy mentrus nag erioed. Byd blêr o olygfeydd a chymeriadau dyfeisiedig, gydag offeryniaeth ddiwydiannol yn gefndir, heb os nac oni bai, bydd yn fuddugoliaeth i’r dychymyg.

Bydd yr auteur o dde Llundain Heartworms yn datgelu ei sain dystopaidd inciog, sydd wedi’i ysbrydoli gan Interpol a Kraftwerk cymaint ag y mae gan farddoniaeth Keats. Gyda band byw llawn, dywedir bod perfformiadau Heartworms yn ddosbarth meistr mewn agwedd a theatr. Gyda’i syllu dwys, mae Heartworms yn gorchymyn nid yn unig y llwyfan, ond eich meddwl, gyda pherfformiad heb ei ail.

Gydag un droed yn gadarn ar y llawr dawnsio, a’r llall mewn byd o berlesmair, bydd un o gerddorion newydd mwyaf trydanol Prydain, Baba Ali, yn dod â’u hegni disgo electro-pync i Gymru. Ar ôl gweithio gyda chynhyrchwyr sydd wedi bod yn gyfrifol am LCD Soundsystem, Hot Chip ac M.I.A, dyma sŵn sydd ag egni amrwd a heintus, ac sy’n ei gwneud hi’n amhosib sefyll yn llonydd.

Gan ddod â’u angst arddegau celf-pync o’u cartrefi brics coch yng Ngogledd Leeds i strydoedd Caerdydd mae Treeboy & Arc. Fel y band diweddaraf i gael eu harwyddo gan Clue Records (Bored At My Grandmas House, The Wedding Present, YOWL), mae’r criw gwyllt o bump wedi cael eu disgrifio gan DIY fel “band sy’n troedio tir newydd ac ar yr un pryd erioed wedi edrych mor sicr o’u hunain”. Yn paratoi i ryddhau eu halbwm gyntaf Natural Habitat yr haf yma, paratowch i weld Treeboy & Arc yn swnio’n fwy tywyll, garw a brwnt nag erioed.

Yn ymuno â lein-yp sydd eisoes yn llawn dop, bydd cyfansoddiadau ôl-roc ffrwydrol Butch Kassidy, sgathradau di-ildio KEG, i waith ergydiol ond tyner Lande Hekt. Yn ymuno â nhw yng Nghaerdydd bydd y ddeuawd derfysglyd o Peckham, O., y gantores-gyfansoddwraig arallfydol Elanor Moss, sain hybrid ôl-pync synthaidd y band o Hull, Low Hummer, rocwyr-celf Moin a phyncs-electro gwyllt Shelf Lives.

Ar lawr gwlad, byddwn ni hefyd yn cael perfformiadau gan Y Dail, prosiect pop trawsgludol Huw Griffiths sy’n 19 oed, a’r cyfansoddwr ac aml-offerynnwr Cerys Hafana sy’n trawsnewid synau Cymreig traddodiadol i gyd-destunau newydd gwefreiddiol.

Bydd Gŵyl Sŵn yn taflu goleuni penodol ar sîn hip-hop gynyddol Cymru hefyd, gyda pherfformiad gan y rapiwr Luke RV sydd, ac yntau’n gwbl annibynnol, â 57,000 o wrandawyr misol, gyda chanmoliaeth gan Lady Leshurr fel ei Thrac yr Wythnos ar BBC Introducing 1Xtra a gwahoddiad i Maida Vale ar gyfer Rap Cypher BBC Introducing x 1Xtra. Yn ymuno ag e bydd yr arloeswr Sage Todz sydd ar flaen y gad yn y sîn gerddoriaeth dril Gymraeg. Roedd ei drac ‘Rownd a Rownd’ yn hit feiral, ar ôl cael ei wylio 200,000 o weithiau ar Twitter ymhen mis o gael ei ryddhau.

LINE-UP ANNOUNCED SO FAR

Wrth siarad am y rhyfeddodau sydd gan Ŵyl Sŵn ar ein cyfer eleni, meddai’r rheolwr byw Adam Williams: “Mae Sŵn yn bwcio artistiaid sydd ar wahanol gamau o’u gyrfa, ond gan ganolbwyntio ar ddoniau newydd. Mae rhai yn fwy profiadol ac yn teithio’n rhyngwladol, mae eraill yn paratoi i ryddhau eu halbwm gyntaf, ac mae ’na artistiaid does neb yn gwybod eu bod nhw’n bodoli eto. Yn aml iawn, yr artistiaid llai adnabyddus sy’n ein cyffroi ni fwyaf!

Mae’r ŵyl yn croesawu tua 140 o artistiaid bob blwyddyn, ac rydyn ni fel arfer yn cyhoeddi tua 70 yn ein ton gyntaf. Yn 2023, roedden ni eisiau cyhoeddi 20 o artistiaid fwy newydd yn unig, rhai rydyn ni’n credu dylen nhw fod ar radar pawb sy’n hoff o gerddoriaeth. Mae’n rhoi cyfle i ganolbwyntio ar yr artistiaid sy’n torri i mewn i’r sîn, neu’r rhai sydd, o’r diwedd, yn cael eu hamser yn y golau. Rydyn ni’n credu bod ein cynulleidfa yn ymddiried ynddon ni, ac eisiau gwybod ar bwy rydyn ni’n gwrando. A dyna, yn syml, yw Sŵn 20 ar gyfer 23.

Byddwn ni’n gweithio gydag artistiaid 20 ar gyfer 23 eleni i gynnig momentau arbennig drwy gydol y penwythnos ym mis Hydref, ac allwn ni ddim aros i rannu hynny gyda chi.”

Cadwch lygad am fwy gan Ŵyl Sŵn wrth i fis Hydref agosáu, ond am nawr, ewch draw i swnfest.com i gael rhagor o wybodaeth ac opsiynau pris tocynnau (fe werthodd tocynnau cyntaf i’r felin a haen un bob tocyn cyn cyhoeddi dim un artist), a gweler isod i weld y rhestr lawn o artistiaid a gyhoeddwyd heddiw.

Gŵyl gerddoriaeth aml-safle sydd wedi ennill sawl gwobr yw Gŵyl Sŵn, sydd wedi’i lleoli’n gyfan gwbl yng nghanol dinas Caerdydd, ac mae wedi cael ei chynnal ers 2007. Ers ei dechrau, mae’r ŵyl wedi bod yn canolbwyntio ar gerddoriaeth newydd, artistiaid sy’n dod i’r amlwg, ac artistiaid lleol.

FURTHER READING

ALFFA | ANI GLASS | BABA ALI | BABYMOROCCO | BANSHI | BC CAMPLIGHT | BILL RYDER-JONES | BODUR | BONNY DOON | BUTCH KASSIDY | CAR BOOT SALE | CATTY | CERYS HAFANA | CHILLI JESSON | CHROMA | CORELLA | CRIMEWAVE | DIVORCE | ELANOR MOSS | ETHAN P. FLYNN | THE FAMILY BATTENBERG | FAT DOG | FFENEST | GILLIE | HALF HAPPY | HEARTWORMS | HEX GIRLFRIEND | THE ITCH | JASMINE JETHWA | JESSICA WINTER | KEG | LANDE HEKT | THE LAST DINNER PARTY | LOS BLANCOS | LOW HUMMER | LUKE RV | LYNKS | MADMADMAD | MAGUGU | MANDY, INDIANA | MERCY ROSE | MINAS | MOIN | MONET | MURDER CLUB | MURIEL | NEW WAVE SOUND.ENT | O. | OPUS KINK | OSCAR BROWNE | PALE BLUE EYES | PARISA FOULADI | PIGS PIGS PIGS PIGS PIGS PIGS PIGS | PIP BLOM | ROSIE ALENA | SAGE TODZ | SHELF LIVES | SKINNY PELEMBE | SLATE | SLEEP OUTSIDE | SOPHIE JAMIESON | TREEBOY & ARC | THE TUBS | TVAM | VANITY FAIRY | WESTERMAN | WILLIAM THE CONQUEROR | WILLIE J HEALEY | Y DAIL